Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym

Casgliad arloesol o gerddi gan Dafydd ap Gwilym yw Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (sic) a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1789. Dyma'r tro cyntaf i olygiad o waith y bardd canoloesol enwog gael ei gyhoeddi, er bod rhai cerddi unigol wedi ymddangos mewn print cyn hynny, er enghraifft yn y flodeugerdd Gorchestion Beirdd Cymru. Y golygyddion oedd Owain Myfyr, William Owen Pughe a Iolo Morganwg ar ran y Gwyneddigion.

Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym
Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym: yr ail argraffiad (Lerpwl, 1873).

Mae'r gyfrol yn garreg filltir yn hanes ysgolheictod llenyddiaeth Gymraeg. Cafodd testunau mwyafrif y cerddi dilys o lawysgrifau Cymraeg a gasglwyd gan Morysiaid Môn.[1] Ond andwyir gwerth y gyfrol gan y ffaith ei fod yn cynnwys cerddi ffug a dadogwyd ar Ddafydd ap Gwilym gan Iolo Morganwg. Ni ddaeth hynny'n amlwg tan yr 20g, er bod rhai beirniaid yn amheus cyn hynny. Er mai ffugiadau ydynt, erbyn hyn mae sawl beirniad yn cydnabod gwerth llenyddol cerddi "ap Gwilymaidd" Iolo fel rhai o gerddi Cymraeg gorau'r 18g.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (Llundain, 1789)
  • Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym, dan olygiad Cynddelw (Isaac Foulkes, Lerpwl, 1873)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Barddoniaeth Dafydd ab Gwilym (1873), tud. xxx.