Isaac Foulkes
perchennog newyddiadur a chyhoeddwr
Newyddiadurwr, awdur a chyhoeddwr oedd Isaac Foulkes (Llyfrbryf, 9 Tachwedd 1836 – 2 Tachwedd 1904).
Isaac Foulkes | |
---|---|
Ffugenw |
Llyfrbryf ![]() |
Ganwyd |
9 Tachwedd 1836 ![]() Llanfwrog ![]() |
Bu farw |
2 Tachwedd 1904 ![]() Rhewl ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Galwedigaeth |
newyddiadurwr, cyhoeddwr, llyfrwerthwr, argraffydd, ysgrifennwr ![]() |
Cyflogwr |
Yr Iolo Manuscripts, cyhoeddwyd gan Isaac Foulkes yn 1848.
Ganed ef yn Llanfwrog, Sir Ddinbych ac aeth i Ruthun fel prentis cysodydd, ond yn 1854 aeth i Lerpwl cyn gorffen ei brentisiaeth. Bu'n gweithio fel cysodydd yn swyddfa'r Amserau, ac yn 1862 sefydlodd ei wasg ei hun a hynny yn Lerpwl lle roedd cymuned sylweddol o Gymry Cymraeg o siroedd y Gogledd.
Ef oedd perchennog a golygydd cyntaf Y Cymro, a ddechreuodd ar 22 Mai 1890. Bu farw yn y Rhewl yn 1904.
CyhoeddiadauGolygu
Detholiad yn unig yw hwn o'r llyfrau niferus a gyhoeddwyd gan Isaac Foulkes:
- Cymru Fu. Straeon a chwedlau.
- Enwogion Cymru (1870)
- Rheinallt ab Gruffydd (1874). Rhamant am Rheinallt ap Gruffudd (15eg ganrif)
- Y Ddau Efell, neu Llanllonydd (1875)
- Daniel Owen. Y Nofelydd (1903). Cofiant Daniel Owen.