William Owen Pughe

geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd, a bardd

Gramadegydd, geiriadurwr a golygydd o Gymru oedd y Dr William Owen Pughe (7 Awst 17594 Mehefin 1835). Ei enw barddol oedd 'Idrison' (defnyddiai 'Gwilym o Feirion' weithiau yn ogystal). Roedd yn aelod gweithgar o gymdeithasau llenyddol Llundain. Fel gramadegydd a geiriadurwr datblygodd ddamcaniaethau ieithyddol rhyfedd ac orgraff newydd i'r iaith Gymraeg.[1]

William Owen Pughe
FfugenwGwilym o Feirion, Idrison Edit this on Wikidata
Ganwyd7 Awst 1759 Edit this on Wikidata
Llanfihangel-y-Pennant Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mehefin 1835 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramedeg Altrincham Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, geiriadurwr, copïwr Edit this on Wikidata
TadJohn Owen Edit this on Wikidata
PlantAneurin Owen, Elen Owen Pughe Edit this on Wikidata
W. Owen Pughe D.C.L., F.A.S (4671832)

Bywgraffiad

golygu

Ganed Owen Pughe yn Nhy'n-y-bryn ym mhlwyf Llanfihangel-y-Pennant, Sir Feirionnydd. Symudodd ei deulu i fyw i dyddyn yn Ardudwy pan fu tua saith oed. Symudodd y dyn ifanc i fyw yn Llundain yn 1776 lle daeth i adnabod Owain Myfyr. Ymunodd â Chymdeithas y Gwyneddigion yn 1782 a daeth yn ddylanwad mawr ym mywyd llenyddol Cymry Llundain. Yn ystod y blynyddoedd hyn ennillai ei fywoliaeth yn gyntaf fel clerc mewn swyddfa cyfreithiwr ac yna fel ysgolfeistr a thiwtor preifat i blant cyfoethogion yn Llundain. Yn 1790 priododd Sarah Elizabeth Harper a chafodd fab (Aneurin Owen) a dwy ferch ganddi. Ei enw bedydd oedd William Owen, ond mabwysiadodd y cyfenw ychwanegol Pughe ar ôl etifeddu tir ger Nantglyn yn Sir Ddinbych yn 1806 gan berthynas pell o'r enw Rice Pughe. Yn dilyn hyn yr oedd ganddo incwm preifat a'i galluogodd i roddi ei holl amser i weithgarwch llenyddol ac ysgolheigaidd. Fodd bynnag parhaodd i fyw yn Llundain hyd 1825 (er i'w wraig farw yn 1815) pryd y dychwelodd i Gymru. Aeth ei iechyd yn fregus a bu farw mewn bwthyn yn perthyn i gyfaill, ger Llyn Mwyngil, Meirionnydd, y 4ydd o Fehefin, 1835.

Roedd yn troi yn yr un cylch â rhai o ffigyrau llenyddol mwyaf ei oes, yn cynnwys Owain Myfyr, Iolo Morganwg a Jac Glan-y-gors. Roedd yn ddyn caredig ond hygoelus. Daeth dan ddylanwad y "broffwydoles" o Ddyfnaint Joanna Southcott (c.1750-1814) yn 1803 a bu'n fath o ffactotwm iddi hyd ei marwolaeth yn 1814. Cafodd ei ethol yn aelod o'r Gymdeithas Hynafiaethol a rhoddodd Prifysgol Rhydychen y teitl o D.C.L. iddo yn 1824.

Gwaith ieithyddol a golygyddol

golygu

Golygodd sawl cyfrol, ar ei ben ei hun neu fel cyd-olygydd, yn cynnwys Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789) a'r llyfr hynod ddylanwadol The Myvyrian Archaiology of Wales (tair cyfrol, 1801-1807). Am gyfnod bu'n olygydd The Cambrian Register.

Cyhoeddodd The Heroic Elegies of Llywarch Hen (1792-1794) a bywgraffiadur Cymreig (1803). Ei waith mwyaf uchelgeisiol oedd ei Geiriadur Cymraeg-Saesneg, ffrwyth ei gred ei fod yn bosibl creu toreth o eiriau "Cymraeg" trwy ddefnyddio'r gwreiddiau tybiedig y canfuasai yn ei ymchwil i darddiad yr iaith.

Cyfansoddodd sawl darn o farddoniaeth, yn cynnwys fersiwn o Paradise Lost John Milton, ond mynnodd ei gyhoeddi yn ei orgraff ryfedd ac maent bron yn annarllenadwy.

Llyfryddiaeth

golygu

Gwaith yr awdur

golygu
  • (gol.), Barddoniaeth Dafydd ap Gwilym (1789)
  • (gol.), The Heroic Elegies of Llywarch Hen (1792-94)
  • (gol.), The Myvyrian Archaiology of Wales (1801-07)
  • The Cambrian Biography (1803)
  • A Grammar of the Welsh Language (1803)
  • Geiriadur Cymraeg-Saesneg (1803)
  • Cadwedigaeth yr Iaith Gymraeg (1808)
  • Coll Gwynfa (1819). Cyfieithiad o Paradise Lost.

Bywgraffiadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "PUGHE, WILLIAM OWEN (1759 - 1835), geiriadurwr, gramadegydd, golygydd, hynafiaethydd, a bardd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-24.