Barddoniaeth i Bawb? - Stéphane Mallarmé
Llyfr ac astudiaeth lenyddol yn Gymraeg gan Heather Williams yw Barddoniaeth i Bawb?: Stephane Mallarme. Cronfa Goffa Saunders Lewis a gyhoeddodd y gyfrol a hynny ar 31 Gorffennaf 1998. Yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[1]
Mae'r gyfrol yn arweiniad cryno i feddwl a gwaith y bardd Ffrengig Stéphane Mallarmé, 1842-98, nawddsant y mudiad Symbolaidd a ddylanwadodd yn fawr ar farddoniaeth yr 20g. Noddwyd yr ymchwil a'r cyhoeddiad gan Ymddiriedolaeth Saunders Lewis. Wedi ei anelu at y darllenydd Cymraeg sydd a chefndir mewn llenyddiaeth Gymraeg, mae'r astudiaeth yma o Stephane Mallarme hefyd yn codi cwestiynau cyffredinol am sut i ddarllen barddoniaeth. Mae'r cwestiwn 'Barddoniaeth i Bawb?' yn y teitl yn arwain at gwestiwn cyffredinol iawn, ond sydd hefyd yn arbennig i Marllarme, sef 'beth yw barddoniaeth?'.
Cyhoeddwyd y llyfr yn rhannol er mwyn nodi canmlwyddiant marwolaeth y bardd. Mae'r bennod gyntaf yn trafod bywyd llenyddol Paris ddiwedd y 19g. Mae'r ail bennod yn trafod cyfraniad Mallarme i lenyddiaeth Gymraeg, gan fanylu ar y defnyddd a wnaed ohono gan Saunders Lewis, a chan gyfeirio hefyd at y bardd Euros Bowen, a gyfieithodd rai o gerddi Mallarme i'r Gymraeg. Yn ogystal â hyn mae'r llyfr yn ceisio gofyn beth sydd gan Mallarme i'w gynnig i'r gynulleidfa Gymraeg heddiw. Mae'r drydedd bennod yn trafod y berthynas rhwng barddoniaeth ac athroniaeth yng ngwaith aeddfed Mallarme, ac yn cynnwys rhai cyfieithiadau Cymraeg o'i gerddi gan Heather Williams.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013