Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith
Mudiad oedd "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" (Hebgaeg:גדוד מגיני השפה|G'dud meginei ha-safa) a oedd yn gweithredu yn y wladychfa Iddewig (Yishuv) ym Mhalesteina dan Fandad rhwng 1923 a 1936 dros statws a hybu defnydd a rheoleiddio'r iaith Hebraeg.[1]
Y Cefndir Hanesyddol
golyguHyd at 1908, Hebraeg oedd iaith yr addysg yn y rhan fwyaf o sefydliadau addysgol Iddewig seciwlar yn y wladychfa Iddewig ym Mhalesteina. Ym 1913, ymledodd sibrydion yn y wladychfa bod rheolwyr y Technion, a oedd i'w hagor yn Haifa, wedi penderfynu cyflwyno Almaeneg fel prif gyfwng y dysgu. Mewn ymateb, penderfynodd graddedigion cyntaf Ysgol Uwchradd Herzliya anfon memorandwm ar ran holl fyfyrwyr ysgolion technegol y wladychfa, yn protestio yn erbyn dirmyg at yr iaith Hebraeg ac yn erbyn cyflwyno Almaeneg fel y cyfrwng dysgu yn y coleg technegol cyntaf yn y wladychfa. Pan benderfynwyd, er gwaethaf y brotest, mai Almaeneg fyddai cyfrwng y dysgu yn y Technion, argyhoeddodd graddedigion cyntaf ysgol Herzliya fyfyrwyr coleg hyfforddi athrawon cymdeithas Ezra a oedd hefyd yn rheoli'r Technion) i fynd ar streic oherwydd diffyg Hebraeg yn y coleg hyfforddi. Nid yw'n syndod, felly, fod sylfaenwyr "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel" hefyd yn dod o blith myfyrwyr Ysgol Uwchradd Hebraeg Herzliya.
Yn 1922, mewn cynhadledd o garedigion yr iaith Hebraeg, sefydlodd Hillel Rashoshan yn Bucovina, yn Rwmania "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" a ymladdodd yn selog dros yr iaith Hebraeg a'i lledaeniad ymhlith yr Iddewon.
Sefydlwyd "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel" yn yr wythnos rhwng y 4ydd a'r 11eg o Ebrill 1923, ar ddiwedd y Trydydd Aliya (1919-1923). Yn wyneb y frwydr dros gyfrwng y dysgu mewn sefydliadau addysg, a dymuniad nifer o garfanau yn y wladychfa i ddefnyddio'r iaith Iddew-Almaeneg (Iddeweg), gan fod y rhan fwyaf o'r Iddewon a ymfudodd i'r wladychfa yn y cyfnod hwn yn dod o ddwyrain Ewrop, a llawer ohonynt yn siarad Iddeweg fel mamiaith, roedd ymdeimlad bod statws yr Hebraeg fel iaith lafar bob dydd o dan fygythiad. Arweiniodd hyn at grŵp o fyfyrwyr ysgol uwchradd Herzliya, gyda chymorth eu hathrawon, yn ceisio sicrhau bod yr iaith Hebraeg yn cael y lle goruchaf ym mhob rhan o fywyd. Roedd y myfyrwyr ysgol uwchradd hyn ar flaen y gad a sefydlasant "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith". Trwyddo buont yn brwydro drwy ddulliau digyfaddawd a chyda'r nod o argyhoeddi'r cyhoedd i siarad Hebraeg. Rhannwyd strwythur "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" yn gwmnïau tebyg i uned filwrol: cwmni propaganda, cwmni dosbarthu, cwmni amddiffyn ac yn y blaen.[2]
Y tu ôl i fenter sefydlu "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith", ac yn gyfrifol am drefnu'r myfyrwyr ysgol uwchradd ar gyfer gweithredoedd, roedd un o'r graddedigion ysgol uwchradd, Herz Ben-Ari (mab y diwygiwr-addysgwr Hebraeg a'r actifydd Seionaidd Yehuda Leib Berger). Ef gasglodd y myfyrwyr ysgol uwchradd ynghyd, gan gynnwys nifer o fyfyrwyr athrofa Levinsky, myfyrwyr o'r ysgol fasnach a grŵp o weithwyr a chlercod. Ar 18 Sivan, galwodd Ben-Ari gyfarfod yn un o neuaddau ysgol y merched lle roedd 15 i 20 o ddisgyblion ysgol uwchradd yn bresennol, a lle cododd y cwestiwn am sefyllfa'r iaith. Ar yr un achlysur, cynigiodd Herzl Ben-Ari sefydlu corff a fyddai'n brwydro yn erbyn dirmyg at yr iaith Hebraeg. Derbyniwyd cynllun Ben-Ari yn llawn, ac yn y cyfarfod dewiswyd bwrdd rheoli bach ar gyfer y corff newydd, nad oedd eto wedi cael enw, gyda Herz Ben-Ari, Zvi Neshri, Lipa Levitan, Ezra Danin, ac Aharon Hatar-Yishi yn aelodau. Cafodd sefydlu'r Bataliwn groeso brwd gan rai o awduron Tel Aviv a hefyd gan athrawon yr ysgol uwchradd, ac yn fuan ymunodd dwsinau o ddynion a merched ifanc y ddinas â hi.
Cynllun gweithredu "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith"
golyguMae cynllun gweithredu "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel" a dderbyniwyd gan y Gymanfa Gyffredinol a'i sefydlodd, wedi'i rannu'n dair prif adran: lledaeniad yr iaith, propaganda o blaid defnyddio'r iaith a gwarchod rhag dirmyg tuag at yr iaith. Er mwyn gweithredu’r cynllun, gweithredodd y Bataliwn drwy’r dulliau canlynol:
Lledaenu'r iaith - i'r diben hwn, sefydlodd aelodau'r Bataliwn adran o athrawon, a oedd yn gwasanaethu grwpiau bach o 6-12 o bobl a ddaeth at y Bataliwn gyda chais i ddysgu Hebraeg iddynt. Darperid y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim, a thros amser roedd tua chant o bobl wedi dysgu’r iaith drwy'r system honno. Hefyd, roedd adran o lyfrgellwyr yn cynorthwyo’n gyson bob dydd yn llyfrgelloedd Undeb y Gweithwyr Hebreig, yn Llyfrgell Barzili ac yn y babell ddarllen ar lan y môr. Yn ogystal, trefnodd y bataliwn ddigwyddiadau gwerin-llenyddol-cerddorol am brisiau rhad er mwyn caniatáu i'r cyhoedd yn gyffredinol ddod i gysylltiad â'r iaith. Cafwyd tri digwyddiad o'r math yma, a ddenodd dyrfa fawr.
Propaganda o blaid yr iaith - posteri gyda'r sloganau "Iddew, siarada Hebraeg!", "Ieithoedd ar wahân - calonnau ar wahân", "Un iaith - un enaid" a "Hebread, siarada Hebraeg!" Cawsant eu dosbarthu'n rheolaidd ymhlith y torfeydd oedd yn siarad ieithoedd heblaw'r Hebraeg ar y strydoedd a'u pastio ym mhob man oedd i'w weld. Ymddangosodd hysbysebion neon a thrydan yn y nos ar Stryd Herzl, i gyd yn cario posteri propaganda o blaid yr iaith. Yn ogystal, trefnodd y Bataliwn ddwy ddarlith gyhoeddus a oedd yn egluro gwerth defnyddio'r iaith Hebraeg. Denodd y ddwy ddarlith gynulleidfa fawr. Roedd rheolwyr yr adran bropaganda yn y Bataliwn hyd yn oed yn apelio ar lenorion yn y wladychfa a thramor, gyda chais i gyhoeddi erthyglau propaganda dyddiol ac wythnosol o blaid defnydd yr iaith yn y wasg. Hefyd, cyhoeddwyd papur newydd gan y Bataliwn lle pwysleisiwyd gwerth defnyddio’r iaith, ynghyd ag adran yn ymwneud â llenyddiaeth a mudiadau ieuenctid.
Gwarchod rhag dirmyg tuag yr iaith - nid oedd aelodau'r bataliwn a oedd yn bresennol mewn gwahanol gynulliadau yn caniatáu siarad mewn iaith heblaw'r Hebraeg ar y llwyfan. Hefyd, aeth adran arbennig o fewn y bataliwn drwy strydoedd Tel Aviv, i gywiro'r holl arwyddion a ysgrifennwyd â gwallau sillafu a gludo arwyddion Hebraeg yn lle arwyddion a ysgrifennwyd mewn Iddeweg a Rwsieg.
Nid oedd aelodau'r Bataliwn yn cilio rhag gweithredoedd treisgar i hyrwyddo eu nodau, a chymerasant ran weithredol yn rhyfel yr ieithoedd. Byddent yn aml yn cynnal protestiadau treisgar, gan gynnwys taflu cerrig, mewn neuaddau Iddeweg yn y wladychfa. Disgrifiodd Yaakov Zerubal y rhyfel ieithoedd yn y 1930au fel a ganlyn: "Gwaeth nag erledigaeth yw'r pogrom systematig, seicolegol ac ideolegol a arferir gan y gymdeithas swyddogol yn erbyn yr hawl i ddefnyddio'r iaith Iddeweg."
Gweithredoedd "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith".
golyguDigwyddodd gweithred gyntaf y Bataliwn nos Wener, 11 Iyar, pan aeth y bataliwn trwy strydoedd Tel Aviv am y tro cyntaf gyda'i aelodau'n canu caneuon Hebraeg, gan gynnwys y gân "Iddew, siarada Hebraeg!" Hyn oll fel protest yn erbyn "Babilon Ieithoedd" a chaneuon mewn ieithoedd heblaw'r Hebraeg. Byddai'r canu yn y strydoedd bob nos Wener a dosbarthu posteri a hysbysiadau propaganda yn baratoadau i'r aelodau barhau â gweithgarwch ehangach y Bataliwn yn unol â'r cynlluniau a nodwyd yn y Gymanfa Gyffredinol. Fe wnaeth aelodau'r Bataliwn hefyd weithredu yn erbyn trigolion a gyrwyr a oedd yn dilorni'r iaith drwy siarad yn amhriodol, fel y daflen a ddosbarthwyd yn Tel Aviv yn erbyn y gyrwyr hyn:
"Hebread! Mae'r gyrwyr yn amharchu'r iaith yn ymarferol [...] mae'n bryd rhoi diwedd ar yr amarch tuag at yr iaith [...] pan fyddwch chi'n mynd i mewn i'r cerbyd a'r car, anerchwch y gyrrwr yn Hebraeg yn unig! Peidiwch ag ateb y gyrrwr os yw'n siarad iaith arall! [...] Ac os yw'r person a grybwyllir uchod yn anghwrtais, ysgrifennwch ei rif i lawr a rhowch wybod i'r sefydliadau cyfrifol! [...]
Nid ymataliodd y "Bataliwn" rhag beirniadu gweinyddiaeth dinas Tel Aviv ychwaith. Yn un o lythyrau'r Bataliwn i'r fwrdeistref dywedwyd:
"Hoffem dynnu eich sylw at y ffaith warthus fod y rhan fwyaf o'r arwyddion yn ein dinas naill ai wedi eu hysgrifennu mewn Hebraeg llygredig a charbwl, neu nad yw perchnogion yr arwyddion yn cynnig digon o le i'r Hebraeg [...] Rhaid i'n bwrdeistref dalu sylw i'r gwarth cyhoeddus hwn a cheisio ei gywiro trwy gael perchnogion yr arwyddion i ymorol bod cynnwys yn arwyddion yn ddigonol, beth bynnag am y sglein allanol [...] fel bod pwy bynnag sy'n dod i ofyn am drwydded ar gyfer yr arwydd ddim yn ei chael oni bai bod cynnwys yr arwydd yn cael ei ddwyn i swyddfa "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" i'w adolygu yn gyntaf [...]"
Bu Bataliwn yr Amddiffynwyr Iaith mewn gwrthdaro arall pan gafodd y bardd Chaim Nachman Bialik ei siwio gan aelod o’r Bataliwn. Dywedodd Bialik wrth y llanc (a ddywedodd wrtho ei fod yn siarad Iddeweg yn Tel Aviv) i fynd i uffern, a chafwyd ef yn ddieuog yn yr achos.
Roedd y rhai a wrthwynebodd y defnydd o ieithoedd heblaw'r Hebraeg yn y wladychfa wedi chwalu cyfarfod gyda'r nos o gyfnodolyn Orient, cyfnodolyn Almaeneg oedd yn gweithredu ym Mhalesteina, drwy osod bom yn swyddfa'r golygydd.[3]
Mewn byr o dro, sefydlwyd canghennau ychwanegol o "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith" yn Jerwsalem (lle cafodd ei arwain gan Yosef Kluizner, Naftali Hertz Torchiner a Hamda Ben-Yehuda)[4], yn Haifa, yn Safed, yn Rosh Pina, yn Rehovot, yn Rishon LeZion, yn Ecron, yn Yavnal, a hyd yn oed dramor. Yn ogystal â materion y Bataliwn, roedd y cwmnïau hefyd yn ymwneud â gwaith diwylliannol Hebreig cyffredinol yn y wladychfa ac yn y Bataliwn ei hun. Er enghraifft, yng nghangen Bivanel yn Galilea, bu dadl hir am enw'r Bataliwn: "Roedd yna rai, yn eu plith pennaeth yr ysgol yn y moshaf, a awgrymodd newid yr enw. Ymhlith y gwahanol gynigion a gafwyd roedd “Amddiffynwyr yr Iaith” a “Bataliwn Carwyr yr Iaith.”[5] Mewn cyfarfod cyffredinol o'r gangen, penderfynwyd cadw'r enw yr oedd grwpiau ieuenctid eraill yn y wladychfa yn ei ddefnyddio, hynny yw grwpiau oedd hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros amddiffyn yr iaith. Yn y modd hwn, penderfynodd y gangen i gadw mewn cysylltiad â'r Bataliynau eraill yn y wladychfa ac yn y ffordd yna, mae'n debyg, y penderfynwyd yn derfynol ar yr enw "Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith yng Ngwlad Israel ". Clywodd cymunedau alltud o Iddewon am weithredoedd y Bataliwn hefyd ac anogwyd grwpiau o ieuenctid Seionaidd i ddilyn ôl ei draed. Er enghraifft, trefnwyd cangen dramor o'r gatrawd yn Raditz, Rwmania, ar gyfer cydweithio i ledaenu'r iaith Hebraeg ymhlith cylchoedd ieuenctid Hebraeg. Llwyddodd sylfaenwyr y gangen i recriwtio tua 50 o bobl ifanc oedd yn siarad Hebraeg yn unig ymhlith ei gilydd, er gwaethaf rhwystrau'r amgylchedd, a oedd yn estron ac yn gweld yr ymddygiad hwn yn anarferol.
Anthem y "Bataliwn".
golyguRoedd gan "Bataliwn yr Amddiffynwyr Iaith" hyd yn oed anthem arbennig a ysgrifennwyd gan Yosef Oxenberg a'i galw'n "Anthem Bataliwn Amddiffynwyr yr Iaith":
- Ydych chi'n gwybod pwy sydd ar ei draed?
- Ydych chi'n gwybod pwy ydw i?
- Rydym yn unedig ym mhob maes.
- Dw i ddim yn berffeithydd,
- Nac yn fwrgais chwaith,
- Dilynwch fi
- Dewch
- Eiddo ni yw'r dyfodol,
- Dwi ddim yn llipryn gwan
- nac yn filwr chwaith,
- Oherwydd ein slogan: Iddew, siarada Hebraeg!
- Ydych chi'n gwybod pwy ydw i?
- O Fataliwn Amddiffynwyr yr Iaith!
- Iddewon, mae pawb yn ein hadnabod ni,
- Iddew, siarada Hebraeg, iaith dy bobl a'th wlad!
- Hebddon ni, fyddai dim byd!
- Iddew, cofia bob amser mai Hebraeg yw dy iaith di!
- Hebraeg yw ein hiaith ac ynddi rydyn ni'n eiriol dros bleidiau nad oes gennym ni
- Does dim cynlluniau ar gael chwaith, ac i'n gwrthwynebwyr ni i gyd, rydyn ni'n bipio!
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Mitch Frank (2005). Understanding the Holy Land: Answering Questions About the Israeli-Palestinian Conflict (yn Saesneg). Viking. ISBN 978-0-670-06032-0.
- ↑ Ghil'ad Zuckermann (2020). Revivalistics: From the Genesis of Israeli to Language Reclamation in Australia and Beyon (yn Saesneg). Oxford University Press. t. 40.
- ↑ ביקורת ספרים מאת יפתח אשכנזי באתר יד ושם
- ↑ כרוז באתר הספרייה הלאומית
- ↑ מתוך ידיעות מסניפי "גדוד מגיני השפה", גדודנו, שבט תרפ"ה, עמ' 15.
Gweld hefyd
golygu
Ar gyfer darllen pellach
golygu- How Yiddish became a ‘foreign language’ in Israel despite being spoken there since the 1400s – The Forward[1]
- ↑ Golden, Zach. "How Yiddish became a foreignlanguage in Israel despite being spoken there since the 1400s". Forward (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Ebrill 2024.