Beatriz Santos Arrascaeta

Llenores Sbaeneg, cantores a dawnswraig, ac ymgyrchydd hawliau dynol o Wrwgwái yw Beatriz Santos Arrascaeta (ganwyd 20 Ionawr 1947).

Beatriz Santos Arrascaeta
Ganwyd30 Ionawr 1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethWrwgwái Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, ymchwilydd, ymgyrchydd, bardd, newyddiadurwr Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Montevideo, prifddinas Wrwgwái, i deulu o dras Affricanaidd. Mae hi'n nith i'r bardd Juan Julio Arrascaeta. Ymunodd â'r grŵp dawns Odín.

Sefydlodd y Ganolfan Ddiwylliannol dros Heddwch ac Integreiddio (CECUPI) i ymgyrchu'n erbyn gwahaniaethu hiliol. Bu'n darlithio ar bynciau hanes a llên gwerin yr Affricanwyr yn Wrwgwái.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Historias de vida: Negros en el Uruguay (1994)
  • El negro en el Río de la Plata (1995)
  • La herencia cultural africana en las Américas (1998).

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Santos Arrascaeta, Beatriz (1947–)" yn Dictionary of Women Worldwide (Gale, 2007), Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.