Bedwyr Williams
Artist o Gymru yw Bedwyr Williams (ganed 1974 yn Llanelwy).[1] Mae'n cyfuno gosodwaith a chomedi stand-yp.[2]
Bedwyr Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1974 Llanelwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, artist fideo, artist sy'n perfformio |
Bywyd cynnar
golyguCafodd ei fagu ym Mae Colwyn a mynychodd Ysgol y Creuddyn. Aeth i Goleg Menai, Bangor, i ddilyn cwrs celf sylfaenol am flwyddyn cyn mynychu St Martins School of Art yn Llundain ac yna Ateliers, Arnhem.[3]
Gwobrau
golyguYn 2004 enillodd Wobr Paul Hamlyn ar gyfer Celf Gweledol.[3]
Yn 2005 ef gynrychiolodd Cymru yn Biennale Fenis.[4] Bedwyr Williams yw'r artist a fydd yn cynrychioli Cymru yn y 55ed Arddangosfa Gelf Ryngwladol y Biennale Fenis yn 2013 trwy brosiect sy'n cael ei guradu ar y cyd gan Oriel Mostyn ac Oriel Davies a'i noddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru.[5]
Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011, fe enillodd y 'goron driphlyg' drwy ennill Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain, Gwobr Ivor Davies am waith sy'n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru, a hefyd ef oedd enillydd Dewis y Bobl yn Y Lle Celf.[6][7][8]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ gwefan galeri g39
- ↑ Kim Dhillon, Bedwyr Williams Archifwyd 2008-02-18 yn y Peiriant Wayback, Frieze, Ebrill 2006.
- ↑ 3.0 3.1 Artist lleol yn Fenis Gwefan BBC Cymru
- ↑ Adrian Searle, Picture perfect, The Guardian, Tachwedd 30, 2004.
- ↑ http://www.celfcymru.org.uk/41003[dolen farw] Bedwyr i'r Biennale] Gwefan Cyngor Celfyddydau Cymru.
- ↑ Artist yn ennill y trebl mewn un Eisteddfod. BBC Cymru (6 Awst 2011).; adalwyd 3 Mai 2013
- ↑ Wrecsam yn dre'r trebl[dolen farw] Gwefan yr Eisteddfod
- ↑ Telyn neu gelf? Bedwyr yn poeni am doriadau golwg360.com Mehefin 5, 2012
Dolenni allanol
golygu- Gwefan yr artist Archifwyd 2012-08-25 yn y Peiriant Wayback