Beelsebwl
Ym mytholeg y crefyddau Abrahamig, enw un o saith tywysog Uffern yw Beelsebwl, enw sy'n dod o Ba‘al Zebûb, Ba‘al Zəbûb neu Ba‘al Zəvûv (Hebraeg בעל זבוב). Ceir hefyd Belzebud, Beezelbub, Beazlebub, Belzaboul, Beelzeboul, Baalsebul, Baalzebubg, Belzebuth, Beelzebuth, a Beelzebus.
Enghraifft o'r canlynol | duwdod |
---|---|
Enw brodorol | בַּעַל זְבוּב |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn yr Hen Destament (2 Brenhinoedd:1) ceir y duw paganaidd 'Baal-sebub'. Yn y Testament Newydd, enw'r Diafol yw 'Beelsebwl'. Sail yr enwau hyn yw Baal, prif dduw'r Ffeniciaid.