Duwdod
Endid goruwchnaturiol sy'n cael ei addoli yw duwdod. Ystyrir ef neu hi yn santaidd ac yn meddu pwerau sylweddol.
Hanes addoli
golyguGall duwdod gael ei addoli mewn nifer o ffurfiau; yn aml fe'i darlunnir ar ffurf ddynol neu ar ffurf anifail. Yn ôl rhai crefyddau, mae'n gabledd darlunio'r duwdod mewn unrhyw ffurf. Gall eu pwerau fod yn gyfyngedig i ardaloedd arbennig neu i agweddau arbennig ar fywyd, neu gallant fod yn hollalluog. Yn aml, mae'r duwdod yn gysylltiedig â bywyd ar ôl marwolaeth.
Addoli duwdod yw maes crefydd, tra mae syniadaeth am y duwdod yn fater diwinyddiaeth. Mae'r mwyafrif mawr o drigolion y byd yn ddilynwyr rhyw grefydd. Ymddengys fod rhyw fath o grefydd yn mynd yn ôl i'r cyfnod cynnar, gan fod claddedigaethau o rhwng 50,000 a 30,000 CCC. yn dangos tystiolaeth am gred mewn bywyd ar ôl marwolaeth.
Mathau
golyguEfallai'r ffurf gyntaf ar grefydd oedd Animistiaeth, lle credir fod ysbrydion ym mhopeth, yn cynnwys anifeiliaid, planhigion ac elfennau.
Mewn rhai ffurfiau o amldduwiaeth, ystyrir y duwiau a duwiesau fel rhyw fath o fersiwn ddwyfol ac endidau dynol. Nid oedd y ffin rhwng duwiau a bodau dynol yn un na ellid ei chroesi. Er enghraifft, disgrifiai brenhinoedd yr Hen Aifft eu hunain fel "Mab Ra" a duwiau eraill. Gallai bodau dynol ddod yn ddwyfol ar ôl eu marwolaeth; er enghraifft cyhoeddwyd llawer o ymerodrol Rhufain yn dduwiau. Honnai teulu Iŵl Cesar eu bod yn ddisgynyddion uniongyrchol i'r dduwies Gwener.
Mewn Undduwiaeth, dim ond un Duw sydd, ac mae pellter mwy rhwng y dynol a'r dwyfol. Ceir gwahanol ffurfiau, er enghraifft mewn Pantheistiaeth mae'r bydysawd ei hun yn ddwyfol. Credai dilynwyr Manicheaeth a Zoroastriaeth mewn deuoliaeth, da a drwg. Y prif grefyddau un-dduwiol yw Iddewiaeth, Cristnogaeth ac Islam.