Cymeriad mewn mytholeg Roeg oedd Bellerophon (Hen Roeg: βελλεροφῶν). Roedd yn ŵyr i Sisyphus, a yrrwyd i Tartarus am ei gamweddau, ac yn fab i Glaucus, brenin Corinth.

Bellerophon a Pegasus

Mae'n fwyaf enwog am ladd y Chimaira, anghenfil a phen llew, corff gafr a chynffon neidr. Daliodd Bellerophon y ceffyl adeiniog Pegasus a'i ddofi, a'i ddefnyddio i ymladd yn erbyn y Chimaira.

Yn ddiweddarach, ceisiodd Bellerophon hedfan i Olympos ar gefn Pegasos, ond gyrrodd y duwiau bryf i bigo Pegasos. Taflodd Pegasos Bellerophon oddi ar ei gefn a syrthiodd i'w farwolaeth.