Bellevue Park, Wrecsam

parc cyhoeddus yng Wrecsam, Cymru
(Ailgyfeiriad o Bellevue Park, Wrexham)

Parc Edwardaidd yn ninas Wrecsam, yng ngogledd-ddwyrain Cymru, yw Parc Bellevue ("Bellevue Park"). Yn hanesyddol roedd y parc yn cael ei adnabod fel "y Parciau". Adeiladwyd y parc er mwyn dathlu blwyddyn ymgorfforiaeth y dref. Mae'r parc yn adnabyddus am yr amffiteatr naturiol yn ei rhan dde-ddwyreiniol, sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cyngherddau rheolaidd a cherddoriaeth fyw yn ystod yr haf.[1]

Parc Bellevue
Mathparc Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1906 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.043°N 2.999°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Edit this on Wikidata
Map

Daearyddiaeth

golygu

Lleolir y parc yng nghanol Wrecsam. Mae'n ffinio â Ffordd Bradle i'r gorllewin, Ffordd Rhuthun i'r de, Sgwâr Tenters i'r dwyrain/gogledd-ddwyrain a Ffordd Bellevue i'r gogledd-orllewin.

Ail-ddatblygiad

golygu

Yn yr saithdegau roedd y parc wedi'i esgeuluso ac roedd llawer o'i gyfleusterau mewn cyflwr gwael. Cynhaliwyd prosiect mawr i adnewyddu'r parc a'i ddychwelyd i ei ogoniant gwreiddiol. Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, y Prosiect Parciau Trefol, yr Awdurdod Datblygiad Cymru a'r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Ailagorwyd y parc ym mis Mehefin 2000. Mae gan y parc bellach ardaloedd chwarae plant, lawnt fowlio (cartref i Glwb Bowlio Parciau), cyrtiau tennis a pel-fasged, bandstand Edwardaidd gwreiddiol mewn amffiteatr, llwybr arbennig ar gyfer rhedwyr a cherddwyr, a golygfeydd tuag at Eglwys San silyn. Mae'r parc wedi'i oleuo yn dda ac mae ganddo nifer o gamerâu teledu cylch cyfyng i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. [2]

Mae Parc Bellevue wedi dod yn boblogiadd unwaith eto ymysg trigolion Wrecsam. Yn ystod yr haf, mae'r parc yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, gan gynnwys cyngherddau o bob math a 'diwrnodau hwyl' i blant.

Cafodd angen i greu parc yn Wrecsam ei adnabod yn y 19eg ganrif hwyr, ond dim ond yn 1906 cafodd safle 'y Parciau' ei sefydlu fel estyniad i'r fynwent ar Ffordd Rhiwabon. Cafodd y Parciau ei ddatblygu ar dechrau 1910, a chafodd y gatiau a'r porthdy eu codi o ganlyniad i danysgrifiad cyhoeddus. Yn 1928 symudwyd cerflun y Frenhines Fictoria o Sgwâr Neuadd y Dref (“y Guildhall”), ger Stryt Caer, i'r Parciau, i safle ar bwys y pafiliwn. Cafodd y pafiliwn ei addasu yn y saithdegau i fod yn ganolfan gymunedol. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd y Parciau yn cael ei defnyddio er mwyn cynhyrchu bwyd ar gyfer ysgolion lleol. Roedd y bandstand, a gafodd ei adeiladu mewn amffitheatr naturiol, yn cael ei ddefnyddio yn aml ar gyfer cyngherddau bandiau pres ar y Sul, ond erbyn y chwedegau hwyr roedd e'n segur ac anniogel ac ar fin cael ei ddymchwel. Yn ffodus, adnewyddwyd y bandstand yn 1973. Yn 2015, cafodd Parc Bellevue ei gysegru yn Faes Canmlwyddiant 'Fields in Trust' oherwydd ei gysylltiadau â chyn-filwyr y ddau ryfel byd. [3]

Clwb pêl-droed

golygu

Sefydlwyd y clwb pêl-droed Bellevue yn 2016 yn y parc. Pwrpas y clwb yw darparu cyfleodd i chwarae pêl-droed i grwpiau difreintiedig neu rhai sy'n byw mewn tlodi.

Mae'r clwb yn gweithio'n benodol gyda phobl o gefndiroedd BAME, gan gynnwys grwpiau fel ffoaduriaid, ceiswyr lloches, ymfudwyr economaidd ac addysgol. Mae'r clwb yn cynnig cyfleoedd yn ogystâl i bobl lleol â phroblemau iechyd meddwl, pobl â mân anableddau neu unrhywun sy wedi profi rhwystrau i chwarae pêl-droed. [4]

 
Bellevue Park ("Y Parciau") - mynedfa ar gyffordd rhwng Ffordd Rhuthun a Ffordd Bradle

Cyfeiriadau

golygu
  1. contact-us@wrexham.gov.uk, Wrexham County Borough Council, Guildhall, Wrexham LL11 1AY, UK. "Bellevue Park - WCBC". old.wrexham.gov.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-04-17. Cyrchwyd 2021-01-10.
  2. "History Points - Bellevue Park, Wrexham". historypoints.org. Cyrchwyd 2021-01-10.
  3. "Belle Vue Park, Wrexham". Fields in Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-10-28. Cyrchwyd 13 October 2021.
  4. "Bellevue FC | Wales | Football Club". mysite (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-03-30.