Stryt Caer, Wrecsam
Stryd fasnachol yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Stryt Caer (Saesneg: Chester Street).
Lleoliad
golyguMae Stryt Caer yn rhedeg trwy ganol Wrecsam o'r gogledd i'r de, gan ddechrau yn y ganolfan ddinesig i'r gogledd o'r canol. Mae'n mynd trwy'r gyffordd gyda Stryt Holt a Stryt y Lampint wrth ymyl canol y ddinas ac yn parhau i'r gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Yorke a Stryt Siarl ger gwesty'r Wynnstay Arms. Mae'r stryd yn estyn hefyd i'r gogledd o'r ganolfan ddinesig i gyfeiriad Caer, ond gyda'r enw Ffordd Caer.
Hanes
golyguFel nifer o strydoedd hynaf Wrecsam, megis Stryt yr Hôb a Ffordd Rhiwabon, enwyd y stryd ar ôl ei chyrchfan. Mae diflaniad nifer o adeiladau hanesyddol wedi newid cymeriad y stryd rhwng Stryt Henblas a'r groesfford gyda Stryt Holt a Stryt y Lampint. Yma, saif Guildhall Square, hen gapel yr Annibynwyr a hen adeiladau y cyngor ar safle yr hen ysgol ramadeg.[1]
Disgrifiad
golyguStryd i gerddwyr yw Stryt Caer. Maewedi cadw nifer o'i hadeiladau hanesyddol, gan gynnwys dau adeilad rhestredig Gradd II, saf tafarndy y Feathers o'r 18fed ganrif, thafarn yr Old Vaults, sydd wedi cadw llawer o’i gymeriad gwreiddioldafarn o ganol y 19eg[2] a rhifoedd 57 i 61, rhes o flaenau siopau traddodiadol.
Mae nifer o adeiladau nodedig ar y groesffordd rhwng Stryt Caer, Stryt Holt a Stryt y Lampint, sef y dafarn a chanolfan Gymraeg Saith Seren, Tŷ Pawb, a thafarn y Welch Fusilier. Mae'r stryd wedi cadw ei chymeriad hanesyddol yn enwedig yn y rhannau rhwng y Feathers a chyffordd Stryt Henblas, ac i'r gogledd o ganol y ddinas, o Saith Seren i gyfeiriad y ganolan ddinesig.
Lluniau
golygu-
Siopau ar Stryd Caer a ailfodelwyd tua 1900 o adeiladau cynharach
-
Golygfa o Stryd Caer i'r gogledd o'r gyffordd â'r Stryt Fawr, Stryt Siarl a Stryt Yorke
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "A history of the Bomb site - Wrexham history". Wrexham History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-16. Cyrchwyd 5 July 2022.
- ↑ "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 5 July 2022.