Un o faesdrefi allanol Tiwnis, prifddinas Tiwnisia, yw Ben Arous (Arabeg: بن عروس). Mae'n gorwedd i'r de-ddwyrain o'r ddinas honno, tua 10 cilometr o'i chanol. Mae'n 'brifddinas' Talaith Ben Arous.

Ben Arous
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth88,322 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iAprilia, Saint-Étienne Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBen Arous Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Cyfesurynnau36.7531°N 10.2189°E Edit this on Wikidata
Map

Mae'n dref ddiwydiannol dosbarth gweithiol ac mae nifer o'r trigolion yn teithio oddi yno i weithio yn y brifddinas. Mae'n gorwedd ar groesffordd bwysig, gyda ffyrdd yn ei chysylltu â Thiwnis, Hammam Lif a Zaghouan.

Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.