Ben Simon
Bardd a hynafiaethydd o Gymru oedd Ben Simon (tua 1703 – 1 Mawrth 1793). Roedd yn frodor o blwyf Abergwili yn Sir Gaerfyrddin.[1] Cedwir nifer o'i lawysgrifau yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ben Simon | |
---|---|
Ganwyd | c. 1703 |
Bu farw | 1793 Abergwili |
Man preswyl | Abergwili |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, hynafiaethydd |
Bywgraffiad
golyguGaned Ben Simon tua 1703 ym mhlwyf Abergwili, ger Caerfyrddin yn Sir Gaerfyrddin. Ymddiddorai yn hynafiaethau ei fro ac yn yr hen lawysgrifau Cymraeg ac aeth ati i gopïo cynnwys o sawl un ohonynt, yn enwedig gwaith Beirdd yr Uchelwyr. Ysgrifennodd ei gasgliad mawr o gerddi Dafydd ap Gwilym yn 1754.[1]
Roedd yn effro i symudiadau crefyddol yr oes a daeth yn edmygydd mawr o Griffith Jones, Llanddowror; cedwir ar glawr marwnad Ben Simon iddo.[1]
Cyfansoddodd sawl baled gan gynnwys un ar farwolaeth dau ar bymtheg o lowyr a fu farw mewn damwain yng nglofa'r Wern Fraith ger Castell-nedd yn 1756.[1]
Bu farw yn 1793.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).