Gwleidydd o Bacistan oedd Benazir Bhutto (21 Mehefin 195327 Rhagfyr 2007). Bhutto oedd y ddynes gyntaf erioed i gael ei hethol i arwain gwlad Fwslimaidd yn y cyfnod ôl-drefedigaethol.

Benazir Bhutto
Ganwyd21 Mehefin 1953 Edit this on Wikidata
Karachi Edit this on Wikidata
Bu farw27 Rhagfyr 2007 Edit this on Wikidata
o ymosodiad terfysgol Edit this on Wikidata
Rawalpindi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethPacistan Edit this on Wikidata
AddysgDoctor of Sciences Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Pacistan, Arweinydd yr Wrthblaid, Prif Weinidog Pacistan, Arweinydd yr Wrthblaid, Federal Minister for Finance, Federal Minister for Defence (Pakistan) Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Pobl Pacistan Edit this on Wikidata
TadZulfiqar Ali Bhutto Edit this on Wikidata
MamNusrat Bhutto Edit this on Wikidata
PriodAsif Ali Zardari Edit this on Wikidata
PlantBilawal Bhutto Zardari, Bakhtawar Zardari Bhutto, Aseefa Bhutto Zardari Edit this on Wikidata
LlinachBhutto family Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Bruno Kreisky, Gwobr y Cenhedloedd Unedig am waith gyda Iawnderau Dynol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://benazirbhutto.com Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd Bhutto yn Karachi, yn blentyn hynaf Zulfikar Ali Bhutto, cyn arweinydd Pacistan, o dalaith Sindh, a Begum Nusrat Bhutto, merch Bacistanaidd o dras Iranaidd a Chyrdaidd. Ei thaid ar ochr ei thad oedd Syr Shah Nawaz Bhutto a ddaeth i Larkana Sindh cyn ymraniad isgyfandir India o'i dref enedigol Bhatto Kalan (yn nhalaith Indiaidd Haryana heddiw).

Cafodd ei hethol yn Brif Weinidog Pacistan ddwywaith. Y tro cyntaf oedd ym 1988 ond cafodd ei gorfodi i adael ei swydd ar ôl 20 mis dan orchymyn yr arlywydd ar y pryd Ghulam Ishaq Khan ar ôl cael ei chyhuddo o fod yn llwgr. Ym 1993 cafodd Bhutto ei hethol yn Brif Weinidog am yr ail dro, ond cafodd ei symud o'r swydd ar yr un cyhuddiadau unwaith yn rhagor, ym 1996, gan yr Arlywydd Farooq Leghari.

Aeth Bhutto yn alltud gwirfoddol yn Dubai ym 1998, lle arhosodd nes iddi ddychwelyd i Bacistan ar 19 Hydref, 2007, ar ôl dod i gytundeb dadleuol gyda'r Cadfridog Musharraf a roddwyd iddi amnest a dileu pob cyhuddiad o lygredd.

Cafodd Bhutto ei bradlofruddio ar 27 Rhagfyr, 2007, mewn ymosodiad terfysgol ar ôl rali gan ei phlaid, Plaid Pobl Pacistan, yn Rawalpindi. Cafodd ei saethu gan yr ymosodwr a chwythodd ei hun i fyny wedyn gan ladd tuag 20 o bobl eraill. Bu Benazir farw yn yr ysbyty am 1320 UTC.[1]

Llyfryddiaeth

golygu

Llyfrau Benazir Bhutto

golygu
  • Benazir Bhutto, (1983), Pakistan: The gathering storm, Vikas Pub. House, ISBN 0-7069-2495-9
  • Benazir Bhutto (1989), Daughter of the East, Hamish Hamilton. ISBN 0-241-12398-4
  • Benazir Bhutto (1989), Daughter of Destiny: An Autobiography. Simon & Schuster. ISBN 0-671-66983-4

Cyfeiriadau

golygu
  1. Muñoz, Heraldo (2013). Getting Away with Murder: Benazir Bhutto's Assassination and the Politics of Pakistan (yn Saesneg). W. W. Norton & Company. ISBN 978-0393062915.

Llyfrau am Benazir Bhutto

golygu
  • W.F.Pepper, (1983), Benazir Bhutto, WF Pepper, ISBN 0-946781-00-1
  • Rafiq Zakaria (1990), The Trial of Benazir, Sangam Books. ISBN 0-86132-265-7
  • Katherine M. Doherty, Caraig A. Doherty , (1990), Benazir Bhutto (Impact Biographies Series), Franklin Watts, ISBN 0-531-10936-4
  • Rafiq Zakaria, (1991), The Trial of Benazir Bhutto: An Insight into the Status of Women in Islam, Eureka Pubns, ISBN 967-978-320-0
  • Diane Sansevere-Dreher, (1991), Benazir Bhutto (Cyfres Changing Our World), Bantam Books (Mm), ISBN 0-553-15857-0
  • Christina Lamb, (1992), Waiting for Allah, Penguin Books, ISBN 0-14-014334-3
  • M. Fathers, (1992), Biography of Benazir Bhutto, W.H. Allen / Virgin Books, ISBN 0-245-54965-X
  • Elizabeth Bouchard, (1994), Benazir Bhutto: Prime Minister (Library of Famous Women), Blackbirch Pr Inc, ISBN 1-56711-027-4
  • Iqbal Akhund, (2000), Trial and Error: The Advent and Eclipse of Benazir Bhutto, OUP Pakistan, ISBN 0-19-579160-6
  • Libby Hughes, (2000), Benazir Bhutto: From Prison to Prime Minister, Backinprint.Com, ISBN 0-595-00388-5
  • Mercedes Anderson, (2004), Benazir Bhutto (Cyfres Women in Politics), Chelsea House Publishers, ISBN 0-7910-7732-2
  • Mary Englar, (2007), Benazir Bhutto: Pakistani Prime Minister and Activist, Compass Point Books, ISBN 0-7565-1798-2