Karachi
Karachi yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblog yn y byd.
![]() | |
![]() | |
Math |
metropolis, endid tiriogaethol gweinyddol, dinas â miliynau o drigolion ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Gulshan Town ![]() |
Poblogaeth |
14,910,352 ![]() |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser |
UTC+05:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol |
Wrdw ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Sindh ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
3,527 km² ![]() |
Uwch y môr |
8 ±1 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
24.86°N 67.01°E ![]() |
Cod post |
74000–75900 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Karachi Metropolitan Corporation ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Maer Karachi ![]() |
![]() | |
Mae wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram. Karachi yw prif borthladd Pacistan.
Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19g. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.
Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio drwy'r borth. Ymhlith y prif ddiwylliannau ceir: brethyn, cemegau, a serameg.
Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pacistan.