Canwr, cyfansoddwr a cherddor o Gymru yw Clive John "Benji" Webbe. Mae'n enedigol o Gasnewydd ac yn feteran o'r 'ffrwydriad roc' yno yng nghanol y 1990au a arweiniodd at gylchgrawn Spin yn galw Casnewydd yn y 'Seattle newydd'. Mae Webbe fwyaf adnabyddus fel prif leisydd y band metel trwm Skindred ac fel cyn brif leisydd Dub War, Mass Mental ac fel lleisydd ei brosiectau unigol ei hun. Mae hefyd wedi ymddangos ar recordiau gan Bullet for My Valentine a Soulfly, ac yn chwarae'r syntheseiddydd yn Skindred.

Benji Webbe
Ganwyd11 Mawrth 1967 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr Edit this on Wikidata
Arddullmetal newydd, alternative metal, rap metal Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.skindred.net/ Edit this on Wikidata
Webbe yn ystod Rock am Ring 2017

Ganwyd Benji Webbe Clive John Webbe ar 11 Mawrth 1967 i rieni a oedd wedi ymfudo o Jamaica i Gymru. Teithiodd tad Webbe ar Windrush, y llong ddaeth ag un o'r grwpiau cyntaf o ymfudwyr o Ynysoedd y Caribî i’r Deyrnas Unedig. Daeth i Gymru wedi iddo fethu a chael gwaith ym Manceinion.

Daeth Webbe i amlygrwydd gyntaf gyda Dub War, gan ryddhau dau albwm stiwdio, Pain a Wrongside of Beautiful. Roedd trydydd albwm ar y gweill pan gwahanodd y band ym 1999. Gadawodd Benji label recordiau Earache ar ôl iddyn nhw wrthod gadael iddo recordio albwm unigol a oedd i fod i symud i sain mwy hip-hop. Ar ôl prosiect byrhoedlog gyda Robert Trujillo, Mass Mental, a ryddhaodd un albwm stiwdio ac un albwm byw, ffurfiodd Webbe y band Skindred gyda chyn-aelodau Dub War. Oherwydd anghydfod gyda'r label recordio, symudodd y band at label Bieler Bros. ac mae wedi rhyddhau chwe albwm stiwdio.

Yn 2006, perfformiodd Webbe gyda Korn yng Ngŵyl Download am fod prif ganwr y band, Jonathan Davis, yn ddifrifol wael. Perfformiodd hefyd ar albwm Scream Aim Fire y band Bullet For My Valentine yn 2008 ("Take it Out On Me") ac ar albwm cyntaf Soulfly ("Quilombo" a "Prejudice").[1]

Yn 2015 rhyddhaodd Benji ei albwm unigol cyntaf. Albwm reggae yn unig oedd I Haven't Been Nicking In Ages, a gynhyrchwyd gan Monsta Boy. Mae hefyd wedi perfformio’n achlysurol gyda'r band Mass Mental ar ei newydd wedd a Dub War yn 2015.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Skindred Frontman Benji Webbe on The MetalSucks Podcast #233 | MetalSucks". MetalSucks (yn Saesneg). 2018-04-09. Cyrchwyd 2018-08-26.
  2. "Benji Webbe reveals all about Skindred's new album Big Tings". Metal Hammer Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-08-26.