Berain

hen blasty canoloesol yn Llannefydd, Sir Conwy

Hen blasty canoloesol yn Llanefydd, Bwrdeisdref Sirol Conwy yw Berain, a'r tŷ lle ganed Catrin o Ferain yn 1534, un o'r bobl mwyaf dylanwadol yng Nghyfnod y Tuduriaid yng Nghymru. Saif tua hanner ffordd rhwng Llannefydd a Henllan, ger pentrefan Cefn Berain. Cofrestrwyd y plasty hwn, sydd heddiw'n ffermdy, gan Cadw yn Radd II* 'oherwydd ei arwyddocâd pensaernïol arbennig fel tŷ bonedd Tuduraidd cynnar a phwysig ac am ei bwysigrwydd hanesyddol fel cartref Catrin (Tudur) o Ferain, 'Mam Cymru'.'

Berain
Mathplasty, tŷ hanesyddol Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaCatrin o Ferain Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolBerain Edit this on Wikidata
LleoliadLlanefydd Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr150.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2153°N 3.48813°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Etifeddodd Catrin Berain gan ei thad, Tudur ap Robert o'r Ferain, ac o ochor ei mam, Jane, etifeddodd gyfoeth a thiroedd Syr Rowland Velville, Llywodraethwr Castell Biwmares a mab anghyfreithlon brenin Harri VII o Loegr, a oedd felly'n daid i Catrin.

Roedd yma blasty cynharach na'r un a welir heddiw ac mae'r plasty presennol, yn dyddio'n ôl i o leiaf y 14g, ac yn cynnwys tair prif ran: yr hynaf yw'r neuadd fawr, 'soffistigedig', bloc llety deulawr a hanner tal gyda simneiau yn y talcen ac uned ar ochr gorllewinol y tŷ, sydd hefyd o'r cyfnod Tuduraidd.[1]

Ceir llawer o nodweddion gwreiddiol, Tuduraidd yn yr adeilad canoloesol hwn. Er enghraifft, ceir 'solar' neu ystafell wnio neu ddarllen ar y llawr cyntaf, ac fe'i gelwir yn draddodiadol yn `Lloft-y-Marchog' (neu 'Siambr y Marchog'). Mae gan hwn nenfwd cain wedi'i fframio mewn tair ffordd gyda thrawstiau wedi'u mowldio; ceir tystiolaeth o hen fynediad ysgol o'r ystafell hon i'r llawr uchaf.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Cadw; adalwyd 30 Hydref 2024.