Cefn Berain

pentref ym mwrdeistref sirol Conwy

Pentref bychan yng nghymuned Llanefydd, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Cefn Berain[1] neu Cefnberain.[2] Saif yn y bryniau isel ar ochr orllewinol Dyffryn Clwyd tua 4 milltir i'r gogledd-orllewin o dref Dinbych, ger Llanefydd. Bu'n rhan o sir Clwyd cynt ac yn rhan o'r hen Sir Ddinbych cyn hynny. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanefydd.

Cefn Berain
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2101°N 3.5022°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH998692 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae'n adnabyddus yn bennaf fel cartref y foneddiges Catrin o Ferain (1543/5 - 1591), a lysenwyd yn "Fam Cymru" oherwydd ei chysylltiadau teuluol niferus yn y rhan hon o'r wlad. Gorwedd plasdy Berain ei hun tua thri chwarter milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r pentref bach.

Ganwyd y bardd ac anterliwtwr enwog Twm o'r Nant yn fferm Pen-porchell Isaf, hanner milltir i'r de o'r pentref.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 24 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.