Catrin o Ferain

boneddiges o Gymraes

Boneddiges o Gymraes oedd Catrin o Ferain[1] (neu Catrin o'r Berain[2] ac weithiau Catrin Tudur[3]) (153427 Awst 1591). Ei llysenw oedd "Mam Cymru", ac roedd yn ferch ddeallus a phwerus iawn; bu farw yn 56 mlwydd oed. Nid oes cofeb iddi yn unman ac ni nodir ei henw ar garreg ym mynwent Llanefydd lle claddwyd hi.[4]

Catrin o Ferain
Portread o Catrin o Ferain, mwy na thebyg gan Adriaen van Cronenburgh, arlunydd o ogledd yr Iseldiroedd. Mae'r benglog yn digwydd yn aml mewn portreadau o'r 16eg ganrif ac yn cynrychioli'r hyn sy'n ein hwynebu ar ddiwedd ein hoes h.y. ein marwoldeb. Cedwir y llun yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd wedi iddo am gyfnod fod yng nghasgliad Hermann Wilhelm Göring
Ganwyd1534 Edit this on Wikidata
Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Bu farw27 Awst 1591 Edit this on Wikidata
Llanefydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweithiwr y llys Edit this on Wikidata
TadTudur ap Robert Fychan ap Tudur ab Ieuan o Ferain Edit this on Wikidata
MamJane Velville Edit this on Wikidata
PriodRhisiart Clwch, Morys Wynn ap John, John Salusbury, Edward Thelwall Edit this on Wikidata
PlantThomas Salusbury, John Salusbury, Catrin ferch Richard Clough, Mary Clough, Jane Wynne Edit this on Wikidata
Darlun olew o Catrin a gedwir yng Nghastell y Waun.

Hanes golygu

Unig blentyn Tudur ap Robert Fychan a Jane Velville (merch Syr Rowland Filfel,[5] neu Roland de Velville) oedd Catrin. Honwyd bod Rowland Filfel yn fab gordderch i Harri Tudur drwy berthynas â Llydawes ddienw, ond nid yw hyn yn gywir.[6] Roedd Catrin yn berchen ar ystadau eang yn Nyffryn Clwyd, gan gynnwys ei phlasty teuluol yng Nghefn Berain, Sir Ddinbych ger Llanefydd a phlas Penmynydd, hen gartref Tuduriaid Môn.

Roedd Catrin yn adnabyddus fel noddwraig y beirdd. Canodd y bardd Wiliam Cynwal iddi fel 'cannwyll Gwynedd' mewn cwpled sydd bellach yn enwog. Dyma'r cwpled enwog, wedi'i ddilladu mewn orgraff fodern:

Catrin wych, wawr ddistrych wedd,
Cain ei llun, cannwyll Wynedd.[7]

Bu farw ar 27 Awst, 1591 ac fe'i claddwyd yn Llanefydd ar y cyntaf o Fedi.

Priodasau a phlant golygu

Priododd bedair gwaith:

  1. Syr Siôn Salsbri (neu John Salusbury) o Leweni, Aelod Seneddol tros Sir Ddinbych yn 1545-7
  2. Syr Rhisiart Clwch (Richard Clough) o Ddinbych
  3. Maurice Wynn o Wydir
  4. Edward Thelwall o Blas-y-ward, Dinbych

Siôn Salsbri golygu

Priododd John Salusbury (neu Siôn Salbri) pan oedd hi'n 22 oed. Roedd ef yn fab i Syr John Salusbury (m. 1578) o Lewenni a galwyd ef yn 'John yr Iengengaf'. Bu farw ym Mai neu Fehefin 1566, wedi priodas o 9 mlynedd.[8] Roedd ganddynt ddau fab: Thomas (g. c. 1564), a John (g. 1567).

Rhisiart Clwch golygu

 
Rhisiart Clwch

Marsiandiwr cyfoethog iawn oedd Rhisiart, a sefydlodd y Royal Exchange yn Llundain gyda'i bartner busnes Sir Thomas Gresham.[9] Yn 1567 dychwelodd Rhisiart o Antwerp, lle bu'n gweithio a chododd ddau dŷ: Bachegraig a Phlas Clough. Dyma'r ddau dŷ cyntaf yng Nghymru i gael eu codi allan o frics. Wedi iddo farw, etifeddodd ei fab o'i briodas cyntaf Plas Clough.[10] Cafodd ddwy ferch o'i briodas gyda Chatrin o Ferain: Anne (g. 1568), a briododd Roger Salusbury, a Mary (g. 1569), a briododd William Wynn, Melai.

Wedi chwe mlynedd o briodas gyda Chatrin, bu farw. Mae'n fwy na phosibl iddo gael ei wenwyno gan ei fod yn gwneud gwaith ysbio ar ran Elizabeth I.[9]

Maurice Wynn golygu

Yn dilyn marwoaeth cynamserol Rhisiart, priododd Catrin Maurice Wynn[11] o Wydir, Dyffryn Conwy. Cawsant ddau o blant: Edward, a Jane. Roedd yn Siryf Sir Gaernarfon a phan fu farw, gadwyd Catrin yn un o bobl cyfoethocaf gwledydd Prydain.

Edward Thelwall golygu

Y bedwaredd briodas oedd i Edward Thelwall o Blas-y-Ward; ni chawsant blant a bu farw Catrin o flaen Edward. Mab hynaf Simwnt Thelwall o'i briodas gyntaf oedd Edward. Ysgrifennodd y bardd Robert Parry, Henllan, (fl. 1540?-1612?), farwnad i Catrin yn dilyn ei marwolaeth.[12]

Plant golygu

Cafodd chwech o blant ac un-deg-chwech o wyrion ac wyresau[3]: Dyma'r plant o'r 4 priodas:

  1. Thomas (g. c. 1564), a John (g. 1565 neu 1566)
  2. Anne (g. 1568), a briododd Roger Salusbury, a Mary (g. 1569), a briododd William Wynn, Melai.
  3. Edward, a Jane
  4. dim plant
Disgynnydd

Ffuglen golygu

Ceir tair nofel hanesyddol nodedig am Catrin a'i hoes gan R. Cyril Hughes, sef:

  • Catrin o Ferain (Gwasg Gomer, 1975)
  • Dinas Ddihenydd (Gwasg Gomer, 1976)
  • Castell Cyfaddawd (Gwasg Gomer, 1984)

Storiau a honiadau amdani golygu

Credir i'r bardd Saesneg William Shakespeare ysgrifennu soned am ei mab John. Un chwedl leol arall, o ardal Dinbych yw mai Catrin oedd mam William.[13]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1992), tud. 259; R. Cyril Hughes, Catrin o Ferain (1975); Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.
  2. Y Llyfrgell Genedlaethol
  3. 3.0 3.1 Gwefan y BBC
  4. cylchgrawnbarn.com;[dolen marw] adalwyd 31 Gorffennaf 2016.
  5. Am y sillafiad hwn, gweler  Williams-Ellis, Helen. Catrin o Ferain – Mam Cymru. Barn. Adalwyd ar 27 Awst 2015.
  6. (Saesneg) Roberts, Enid. "Katheryn of Berain". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/67988.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  7. Wiliam Cynwal. Dyfynnir gan R. Cyril Hughes ar wynebddalen ei nofel Catrin o Ferain (1975).
  8. Ballinger, John. "Katheryn of Berain", Y Cymmrodor, Cyfrol XL, Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, Llundain, 1929
  9. 9.0 9.1 Davies J.M. and DC Davies, D.C., "Why did the 5th earl of derby die?", The Lancet, 6 October 2001 (Cyfrol 358, Rhif 9288, Tud. 1187)
  10. "Sir Richard Clough – ‘The Most Complete Man’", Legacies – North East Wales, BBC, Chwefror 2004
  11. "Catrin of Berain". BBC Wales North East. Mehefin 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-21. Cyrchwyd 2012-12-13.
  12. Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein; adalwyd 15 Mawrth 2015
  13. The Free Library

Dolenni allanol golygu