Bernard Ashley
person busnes (1926-2009)
Dyn busnes a pheiriannydd o Gymru oedd Syr Bernard Ashley (11 Awst 1926 – 14 Chwefror 2009).[1] Ef oedd gŵr Laura Ashley, a'i phartrer busnes ers sefydliad ei busnes a oedd yn seiliedig ar ddefnydd ffasiwn.
Bernard Ashley | |
---|---|
Ganwyd | 11 Awst 1926 Brixton |
Bu farw | 14 Chwefror 2009 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | person busnes |
Tad | Albert Ashley |
Priod | Laura Ashley, Régine Burnell |
Plant | Emma M. Ashley, David Nicholas Ashley |
Gwobr/au | OBE, Marchog Faglor |
Cafodd Syr Bernard Ashley ei bortreadu yn y wasg fel dyn busnes yn hytrach na pheiriannydd, ond roedd yn beiriannydd a oedd yn caru trenau, awyrennau a chychod, ond roedd ganddo hefyd gariad mawr o liw a dylunio.
Bu farw yn Rhaeadr Gwy, yn 82 oed.[2] Claddwyd ef gyda'i wraig yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Carno. Roedden nhw wedi byw yng Ngharno ers 1961.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Sir Bernard Ashley dies, aged 82. BBC (16 Chwefror 2009).
- ↑ "Sir Bernard Ashley". The Telegraph (yn Saesneg). 15 Chwefror 2009. Cyrchwyd 25 Medi 2024.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan cwmni Laura Ashley
- Disgrifiad fer o Laura Ashley Archifwyd 2004-06-25 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan cwmni Elenbach Archifwyd 2008-10-12 yn y Peiriant Wayback