Laura Ashley
Dylunydd ffasiwn o Gymru oedd Laura Ashley CBE (7 Medi 1925 – 17 Medi 1985). Daeth ei henw yn adnabyddus ym mhob aelwyd ar gryfder ei gwaith fel dylunydd a chynhyrchydd nifer o ddefnyddiau lliwgar a dodrefn y cartref.
Laura Ashley | |
---|---|
Ganwyd | Laura Mountney 7 Medi 1925 Dowlais |
Bu farw | 17 Medi 1985 Coventry |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | person busnes, dylunydd ffasiwn, dylunydd tecstiliau, artist tecstiliau |
Priod | Bernard Ashley |
Plant | Emma M. Ashley, David Nicholas Ashley |
Gwobr/au | CBE |
Gyrfa
golyguGanwyd Laura Mountney yn Station Terrace, Dowlais, Merthyr Tudful. Magwyd mewn teulu Pabyddol a oedd yn gweithio i'r wasanaeth sifil. Mynychodd gapel Cymraeg Hebron yn Dowlais, er nad oedd yn deall yr iaith, roedd yn ei charu, yn arbennig y canu. Addysgwyd hi yn Ysgol Marshall, Merthyr Tydfil hyd 1932, pan cafodd ei hanfon i Ysgol Elmwood, Croydon. Cafodd ei anfof yn ôl i Gymru fel faciwi, ac ar ôl mynychu Ysgol Ysgrifenyddol Aberdâr, gorffenodd ei haddysg yn 16 oed. Gwasanaethodd yn y Gwasanaeth Llynges Brenhinol Merched yn yr Ail Ryfel Byd, ac o 1945 hyd 1952 roedd yn ysgrifenyddes ar gyfer y Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched yn Llundain. Cyfarfodd â Bernard Ashley, a ddaeth yn Syr Bernard yn ddiweddarach, mewn clwb ieuenctid yn Wallington, a phriododd ef yn 1949.[1]
Tra oedd hi'n gweithio fel ysgrifenyddes ac yn magu ei dau blentyn cyntaf, dyluniodd napcynnau, matiau bwrdd a llieiniau yn rhan amser, ac argraffodd Syr Bernard rhain ar beiriant roedd wedi ei ddylunio ei hun mewn fflat atig yn Pimlico, Llundain.[2]
Buddsoddodd y cwpl £10 mewn pren ar gyfer ffram y sgrîn, llifynnau a sawl llathen o liain. Daeth ysbrydoliaeth Laura i dechrau cynhyrchu defnydd wedi ei argraffu o arddangosfa Sefydliad y Merched o grefftau llaw traddodiadol yn Amgueddfa Victoria ac Albert. Pan ddechreuodd Laura chwilio am ddarnau bychain o ddefnydd Fictoraidd ar gyfer cwiltio, fe chanfu nad oedd y fath beth yn bodoli. Gwelodd y cyfle i'w gyflenwi, a dechreuodd argraffu sgarffiau-pen mewn steil Fictoraidd yn 1953.