Bessie Jones

cantores opera o Gymru

Cantores soprano o Gymru oedd Bessie Jones (1887 – Tachwedd 1974) a ymddangosodd ar rai o'r recordiadau cynharaf a wnaed o ganeuon sioeau cerdd Llundain. Dechreuodd Jones ei gyrfa opera proffesiynol yn fuan ar ôl hyfforddi yn y Coleg Cerdd Frenhinol. O 1913 hyd at 1926, roedd hi'n ganwr ar gytundeb gyda stiwdios HMV, yn recordio nifer o ganeuon poblogaidd, caneuon gwerin Gymreig a chaneuon sioeau cerdd, ac ymddangosodd ar recordiadau o operâu Gilbert a Sullivan a nifer o weithiau eraill. Roedd ganddi hefyd yrfa fel canwr oratorio a chyngherddau ac yn canu ar ddarllediadau radio'r BBC.

Bessie Jones
Ganwyd1887 Edit this on Wikidata
Tonypandy Edit this on Wikidata
Bu farwTachwedd 1974 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Y Coleg Cerdd Frenhinol Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar a gyrfa

golygu

Magwyd Jones yn Nhonypandy yn ferch i John Jones, gwerthwr ffrwythau.[1] Astudiodd Jones yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain, lle enillodd y wobr dosbarth opera yn 1910 a gwobr Henry Leslie i gantorion yn 1912.[2] Yng nghynhyrchiad 1911 y coleg o opera Cherubini, The Water Carrier, serennodd Jones gyda George Baker o dan gyfarwyddwyd Richard Temple a Sir Charles Stanford.[3] Canodd yn y Proms yn 1913 dan arweiniad Sir Henry Wood,[4] a chwaraeodd Wellgunde a'r Woodbird yng nghylch Ring gan Wagner yn Covent Garden dan Artur Nikisch yn 1914.[5] Fe'i disgrifiwyd gan The Manchester Guardian fel, "a new soprano with a sweet voice of considerable power".[6]

HMV a blynyddoedd hwyrach

golygu

Roedd Jones yn ganwr dan gytundeb gyda stiwdios HMV rhwng 1913 a 1926 yn recordio caneuon poblogaidd a chaneuon gwerin draddodiadol yn Gymraeg.[7] Ymysg ei recordiadau nodedig mae'r recordiad 1918 gwreiddiol o'r gân "Peter Pan", geiriau cyntaf Noël Coward ar gyfer y llwyfan yn Llundain, o'r rifiw Tails Up!.[8] Dyma oedd cân gyntaf Coward i'w berfformio yn gyhoeddus.[9] Roedd hi'n un o'r cantorion ar gytundeb gyda HMV i ddefnyddio'r ffugenw "Madame Deering".[10]

Pan wnaed recordiau cynharaf HMV o operâu Gilbert a Sullivan rhwng 1918 a 1924 dan gyfarwyddyd Rupert d'oyly Carte, canodd Jones rannau Peep-Bo yn The Mikado (1918), Gianetta a Fiametta yn The Gondoliers (1919), Kate yn The Yeomen of the Guard (1920), Edith yn The Pirates of Penzance (1921), Lady Saphir yn Patience (1922), Celia yn Iolanthe (1923) a Josephine yn H. M. S. Pinafore (1924).[11] Hefyd ar gyfer HMV, recordiodd Jones Merrie England gan Edward German dan gyfarwyddyd y cyfansoddwr yn 1918,[12] a Madama Butterfly gan Pucciniyn 1924, lle'r oedd yn canu rhan Kate Pinkerton.[13] Ar gyfer yr un cwmni recordiodd Jones ganeuon llai difrifol, gan gynnwys "Down Zummerzet way" (gan T C Sterndale Bennett), "The interfering parrot" (o The Geisha), "Up there!" (gan Ivor Novello), "Daddy's sweetheart" (gan Liza Lehmann), a "The Mirror Song" (gan Oscar Straus).[14]

Yn y neuadd gyngerdd, roedd repertoire Jones yn cynnwys La damnation de Faust gan Berlioz a St Matthew Passion gan Bach.[15] Roedd yn arloeswr ym myd darlledu, yn canu ar orsaf radio'r BBC pan oedd y sefydliad yn dal i fod yn gwmni cyfyngedig.[16] Mewn un perfformiad o 1938 ar raglen radio leol y BBC yng Nghymru, fe'i cyfeiliwyd ar y piano gan ei gŵr Edgar Jones.[17]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Flattering Reception of Miss Bessie Jones at Queens Hall London". The Rhondda Leader. William David Jones. 1913-08-30. Cyrchwyd 2016-07-25.
  2. "The Royal College of Music", The Times, 25 Mawrth 1910, p. 6; and "Royal College of Music Exhibitions", The Times, 1 Ebrill 1912, p. 12
  3. "Royal College of Music Operatic Performance", The Times, 22 Tachwedd 1911. p. 10
  4. "The Promenade Concerts", The Times, 22 Awst 1913, p. 6
  5. "The Covent Garden Season – Das Rheingold", The Manchester Guardian, 22 Ebrill 1914, p. 5
  6. "The London Promenade Concerts", The Manchester Guardian, 22 Awst 1913, p. 9
  7. The Gramophone – Volume 54 – 1976, p. 755.
  8. The Gramophone, Volume 56 (1979), p. 1486
  9. Levin, Milton.
  10. Hillandale News – Volume 221, p. 226 (1998): "A prolific recording artist in the Edwardian period was the soprano Eleanor Jones, who began with Welsh songs ... the pseudonym "Madame Deering" was also used for some of the recordings of another Welsh soprano, Bessie Jones."
  11. Rollins and Witts, pp. x and xi
  12. "The Gramophone Co., Ltd", The Times, 25 Medi 1918. p. 10
  13. Gramophone Notes", The Times, 31 Hydref 1924, p. 10
  14. Rust, pp. 67 and 79; "New Gramophone Records", The Times, 3 Awst 1922, p. 11; "The Gramophone Company Ltd", The Times, 5 December 1922, p. 9; and "Gramophone Records for April", The Times, 5 Ebrill 1923, p. 7
  15. "Langham Choral Society, The Times, 11 November 1920, p. 12; and "The Eisteddfod", The Times, 9 Awst 1928, p. 12
  16. "Broadcasting", The Times, 5 Awst 1926, p. 8
  17. "A vocal and pianoforte recital". BBC. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2016.

Llyfryddiaeth

golygu