Ivor Novello
Roedd David Ivor Davies neu Ivor Novello (15 Ionawr 1893 – 6 Mawrth 1951) yn ddifyrrwr, yn ddramodydd, yn actor ac yn fab i David Davies a "Madame" Clara Novello Davies, cantores enwog. Fe'i ganed yn Llwyn-yr-Eos, Heol y Bontfaen, Dwyrain Caerdydd. Bu farw yn Theatr y Strand, Llundain.
Ivor Novello | |
---|---|
Ffugenw | Ivor Novello |
Ganwyd | David Ivor Davies 15 Ionawr 1893 Caerdydd |
Bu farw | 6 Mawrth 1951 o coronary thrombosis Westminster |
Man preswyl | Littlewick Green |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, dramodydd, cyfansoddwr, ysgrifennwr, sgriptiwr, cyfansoddwr caneuon, actor llwyfan, actor ffilm, canwr, cyfarwyddwr ffilm, libretydd |
Adnabyddus am | Glamorous Night, The Bohemian Girl |
Arddull | sioe gerdd, opereta, neuadd gerddoriaeth |
Mam | Clara Novello Davies |
Priod | Robert Andrews |
Partner | Robert Andrews |
Cyfansoddodd Novello y gân enwog, "Keep the Home Fires Burning" yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cafodd lwyddiant gyda sioeau megis Glamorous Nights a King's Rhapsody.
Pan oedd yn 12 oed, enillodd am ganu dan 12 oed yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon, 1906. Ond cafodd ei garcharu yn ystod yr Ail Ryfel Byd am ddefnyddio petrol anghyfreithlon, profiad a effeithiwyd arno'n fawr. Roedd Novello yn ddyn hoyw agored a hapus. Am 35 mlynedd roedd yn gymar i'r actor Bobbie Andrews, dywedir iddo fod yn gariad i Siegfried Sassoon, y bardd o Sais.[1] Am flynyddoedd llawer bu'n byw yn Littlewick Green, Berkshire.
Mae cerflun ohono ym Mae Caerdydd, sydd y rhestru rhai o'i ganeuon enwocaf.
Ffilmiau
golygu- The Call of the Blood (L'Appel du Sang) (1919)
- Miarka: The Daughter of the Bear (Miarka, Fille de L'Ourse) (1920)
- Carnival (1922)
- The Bohemian Girl (1922)
- The Man Without Desire (1923)
- The White Rose (1923)
- Bonnie Prince Charlie (1923)
- The Rat (1925)
- The Triumph of the Rat (1926)
- The Lodger: A Story of the London Fog (1927)
- Downhill (1927)
- The Vortex (1928)
- The Constant Nymph (1928)
- The Gallant Hussar (1928)
- The South Sea Bubble (1928)
- The Return of the Rat (1928)
- Symphony in Two Flats (1930)
- Once a Lady (1931)
- The Phantom Fiend (1932)
- I Lived With You (1933)
- Sleeping Car (1933)
- Autumn Crocus (1934)
Llyfryddiaeth
golygu- Glamorous Night (1935)
- Careless Rapture (1936)
- The Dancing Years (1939)
- Perchance to Dream (1945)
- King's Rhapsody (1949)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), tt.19–21