Bethan Rhys Roberts
Newyddiadurwraig a chyflwynydd yw Bethan Rhys Roberts (ganwyd 28 Tachwedd 1960).
Bethan Rhys Roberts | |
---|---|
Ganwyd | Bangor |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cyflogwr |
Bywyd cynnar
golyguFe astudiodd Ffrangeg ac Eidaleg yn y brifysgol ac fe aeth ymlaen i astudio newyddiaduraeth print ac Ewropeaidd yng Nghaerdydd a Paris [2].
Gyrfa
golyguFe ymunodd a'r BBC yn 1992, gan ohebu yn bennaf ar storïau tramor o'r dwyrain canol, Iwgoslafia a Swdan. Yn 1997 fe ddaeth hi'n ohebydd gwleidyddol i BBC Cymru a rhwng 2000 a 2006 roedd hi'n cyflwyno rhaglenni newyddion a gwleidyddol ar y BBC World Service a World TV.[3]
Fe symudodd hi a'i theulu yn ôl i Gaerdydd yn 2006 [2] pan ddechreuodd gyflwyno Good Morning Wales ar Radio Wales.
Roedd hi'n cyd-gyflwyno'r rhaglen wleidyddol wythnosol CF99 gyda Vaughan Roderick [4]. Ers 2013 hi yw prif gyflwynydd rhaglen Newyddion ac Y Sgwrs - y rhaglen a ddisodlodd CF99.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Bethan Rhys Roberts (10 Rhagfyr 2013). Proffil Twitter Bethan Rhys Roberts. Twitter. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.
- ↑ 2.0 2.1 BBC (10 Rhagfyr 2013). Good Morning Wales. BBC. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.
- ↑ Bethan Rhys Roberts (10 Rhagfyr 2013). Proffil LinkedIn. LinkedIn. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.
- ↑ S4C (10 Rhagfyr 2013). CF99. S4C. Adalwyd ar 10 Rhagfyr 2013.