Ail albwm unigol y canwr Gai Toms yw Bethel. Rhyddhawyd yr albwm yn Rhagfyr 2012 ar y label Sbensh.

Bethel
Clawr Bethel
Albwm stiwdio gan Gai Toms
Rhyddhawyd Rhagfyr 2012
Label Sbensh

Mae’n albwm dwbl, wedi’i recordio yn yr hen festri capel mae Gai Toms yn gobeithio’i droi yn stiwdio, sy’n talu teyrnged i’r adeilad. Mae llu o artistiaid ardal Ffestiniog wedi cyfrannu at y casgliad.

Dewiswyd Bethel yn un o ddeg albwm gorau 2012 gan ddarllenwyr cylchgrawn Y Selar.[1]

Canmoliaeth golygu

Mae hi’n record sy’n eich tynnu i mewn ar bob gwrandawiad nes eich bod chithau hefyd yn teimlo’n rhan o’r ardal, y gymdeithas a chapel Bethel.

—Ciron Gruffydd, Y Selar

Cyfeiriadau golygu