Gai Toms
Cerddor, canwr a pherfformiwr Cymraeg yw Gai Toms. Ei enw genedigol yw Gareth J. Thomas (ganwyd 14 Medi 1976 ym Mangor, Gwynedd).[1]
Gai Toms | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1976 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr |
Arddull | canu gwerin |
Priod | Sara Ashton |
Gwefan | https://www.gaitoms.com/ |
Gyrfa
golyguAnweledig a Mim Twm Llai
golyguCychwynnodd Gai Toms ei yrfa fel cerddor pan gyd-ffurfiodd y band roc/ska Cymraeg poblogaidd Anweledig efo Michael Jones (gitâr) a Rhys Roberts (bâs) ar Ŵyl San Steffan 1992.
Bu Gai'n perfformio o dan y llysenw Mim Twm Llai rhwng 1997 a 2007. Mae Gai hefyd wedi gweithio fel actor ar y teledu, yn ogystal â chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer y teledu a'r theatr. perfformiodd hefyd yn y Smithsonian Folklife Festival a SXSW yn yr Unol Daleithiau.
Albymau
golyguRhyddhaodd Gai yr albwm eco-gysyniadol Rhwng y Llygru a'r Glasu o dan ei enw ei hun yn 2008, a arweiniodd at ddwy wobr Roc a Phop (RAP) BBC Radio Cymru, y naill am y telynegwr gorau, a'r llall am artist gorau y flwyddyn honno. Recordiodd Gai yr albwm yn ei gartref yn nhref Blaenau Ffestiniog, Gwynedd gan ddefnyddio ynni glân a drymiau a achubwyd o domennydd sbwriel. Cafodd y gwaith celf ar glawr yr albwm a'r deunydd pecynnu hefyd eu cynhyrchu o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu. Mae pob can ar yr albwm yn ymdrin â chwestiynau am gynaladwyedd yn ogystal â'n bodolaeth a'n pwrpas yn y byd. Defnyddiwyd ystod eang o arddulliau cerddorol ar yr albwm hwn, gan gynnwys y felan 'wenfflam' a rymba 'iard sbwriel'. Yr albwm hwn oedd y cyntaf i ymddangos o dan label Gai, Recordiau Sbensh.
Fel arfer, bydd Gai Toms yn perfformio yn ei iaith gyntaf, sef Cymraeg. Ym mis Tachwedd 2012 cyhoeddodd Gai ei fod yn bwriadu rhyddhau albwm ddwbl o ddwy ar hugain o ganeuon newydd o'r enw Bethel fydd yn cynnwys deg cân werin eu naws 'wreiddiol, amrwd a bythol' a deuddeg 'clasur aml-arddull' ym mis Rhagfyr 2012[2]
Cân i Gymru
golyguDaeth Gai Toms yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2010 gyda'r gân Deffra.[3] Llwyddodd Gai i gyrraedd y rownd derfynol Cân i Gymru unwaith yn rhagor yn 2011, gan ddod yn drydydd y tro hwn gyda'r gân Clywch.[4] Ond ar y trydydd cynnig i'r Cymro - yn 2012 - cipiodd y wobr gyntaf gyda'r gân: Braf yw Cael Byw.
Brython Shag
golyguBu Gai yn canu gitâr a llais i'r grŵp mwy diweddar o Flaenau Ffestiniog, Brython Shag o 2014 ymlaen.
Dylanwadau
golyguMae Gai Toms yn rhestru Meic Stevens, Bob Delyn a'r Ebillion, Tom Waits, Manu Chao, Super Furry Animals, John Prine, Django Rheinhardt, Old Crow Medicine Show a Devendra Banhart fel dylanwadau ar ei waith.
Disgyddiaeth
golyguGai Toms
golygu- 2017 Gwalia (Albwm, CD)
- 2015 The Wild, The Tame and The Feral (Albwm, CD - Sbensh CD003)
- 2012 Bethel (Albwm, CD - Sbensh CD002)
- 2008 Rhwng y Llygru a'r Glasu (Albwm, CD - Sbensh CD001)
Mim Twm Llai
golygu- 2006 Yr Eira Mawr (L.P.) Crai
- 2005 Straeon y Cymdogion (L.P.) Crai
- 2002 O'r Sbensh (L.P.) Crai
Anweledig
golygu- 2004 Byw (E.P.) Crai
- 2001 Low Alpine (E.P.) Crai
- 2001 Gweld y Llun (L.P.) Crai
- 2000 Scratchy (E.P.) Zion Train cywaith. Crai
- 1999 Cae yn Nefyn (E.P.) Crai
- 1998 Sombreros yn y Glaw (L.P.) Crai
Gweithiau eraill
golygu- 2006 Dan y Cownter 2, Detholwyd gan Huw Stephens (Un gân o dan yr enw Mim Twm Llai)
- 2006 Llythyrau Ellis Williams. (canodd Dilyn Gorwelion)
- 2005 Dore, Bob Delyn a'r Ebillion (chwaraeodd y gitar fâs)
- 2003 Clyw Leisiau'r Plant (CD Aml-gyfranog) (Un gân o dan yr enw Mim Twm Llai) Crai (CRAI CD091)
- 2003 Cymuned: Y Gwir yn Erbyn y Byd (CD Aml-gyfranog) (Un gân o dan yr enw Mim Twm Llai)
Protest torri cyllideb S4C
golyguYm mis Ionawr 2011, cyhoeddwyd fod Gai Toms yn un o gant oedd wedi gwrthod talu eu trwydded teledu, fel rhan o brotest Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn erbyn y cynlluniau arfaethedig i dorri cyllideb y sianel deledu Gymraeg S4C, a'r bwriad i drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu'r sianel i ddwylo'r BBC.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan swyddogol Archifwyd 2012-08-01 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 24/11/2012
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-01. Cyrchwyd 2012-11-28.
- ↑ Gwefan Cân i Gymru 2010 S4C
- ↑ Gwefan Cân i Gymru 2011 S4C
- ↑ Protest S4C: ‘Bydd cant yn troi’n gannoedd’. Golwg360 (11 Ionawr 2011).