Betsan Llwyd
actores a aned yn 1959
Actores a chyfarwyddwraig o Gymraes yw Betsan Llwyd (ganwyd Medi 1959).[1]
Betsan Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | Medi 1959 Penffordd-Las |
Man preswyl | Yr Wyddgrug |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, cyfarwyddwr artistig |
Adnabyddus am | Pen Talar, Pobol y Cwm |
Bywgraffiad
golyguGaned Betsan ym Mhenffordd-las ym Mhowys a'i magwyd yn Yr Wyddgrug, Sir Y Fflint.[2]
Gyrfa
golyguYn 2012 cafodd ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws. Mae'n un o gyfarwyddwyr Theatr Pena.
Fe enillodd wobrau Actores Orau gan BAFTA Cymru yn 1995 a 2001.[3]
Cafodd lwyddiant gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn perfformio yn Ty Bernarda Alba a Y Pair a gyda Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug yn Salt, Root and Roe, Gas Light a Pygmalion
Ar deledu, mae hi wedi chwarae rhannau yn Talcen Caled, Sombreros, Pen Talar ac mae wedi ymddangos ar Pobol y Cwm.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Betsan Llwyd - Arts Council of Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-24. Cyrchwyd 2015-12-30.
- ↑ Betsan Llwyd yn cyfarwyddo, Cylchgrawn BBC; Adalwyd 2015-12-30
- ↑ 3.0 3.1 Betsan Llwyd awards[dolen farw]
Eginyn erthygl sydd uchod am actor o Gymraes neu o Gymro. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.