Pobol y Cwm

Opera sebon Cymraeg

Un o gyfresi teledu mwyaf poblogaidd Cymru yw Pobol y Cwm ac yr opera sebon mwyaf hirhoedlog a gynhyrchir gan y BBC. Crewyd y gyfres gan y dramodydd Gwenlyn Parry a'r cynhyrchydd John Hefin.[1] Ar wahân i rygbi, dyma'r rhaglen mwyaf poblogaidd ar S4C.[2]

Pobol y Cwm
Genre Opera sebon
Serennu Cast
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 20 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Cymru (1974-1982)
S4C (1982-)
Rhediad cyntaf yn 16 Hydref 1974
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

Fe ddechreuodd y gyfres ar 16 Hydref 1974;[3] felly dim ond Coronation Street ac Emmerdale sydd wedi parhau yn hirach na Pobol y Cwm ar y teledu ym Mhrydain. Yn y dyddiau cynnar fe'i ddarlledwyd y diwrnod canlynol am 12:25 ar rwydwaith BBC 1.[4] Wedi i S4C gael ei sefydlu, trosglwyddodd y gyfres i'r sianel honno a bellach fe'i darlledir bum noson yr wythnos trwy gydol y flwyddyn.

Mae S4C yn dangos Pobol y Cwm fel arfer o nos Lun i nos Wener am 19:30 neu 20:00, heblaw yn ystod Eisteddfodau neu lle darlledir chwaraeon. Maent yn ail-ddarlledu 'Omnibiws' o holl benodau'r wythnos gydag isdeitlau yn Saesneg ar y sgrin ar nos Sul am 17:30.

Mae'r rhaglen wedi bod yn feithrinfa i nifer o actorion a aeth ymlaen i adnabyddiaeth rhyngwladol, yn cynnwys Ioan Gruffudd a Iwan Rheon. Mae nifer o enwogion o actorion gwadd wedi ymddangos yn y gyfres hefyd, yn cynnwys Rhys Meirion, Ray Gravell, Michael Aspel, Giant Haystacks ac El Bandito, Dave Brailsford, Russell Grant, Michael Sheen a Ruth Jones.[5]

Cyfres PyC golygu

Yn Ebrill 2013 cynhyrchwyd cyfres aml-blatfform PyC a oedd yn seiliedig a rai o gymeriadau ifanc Pobol y Cwm. Bwriad y prosiect oedd apelio at oedolion ifanc a chwilio am ffyrdd newydd o ddweud stori. Roedd y gyfres ar gael ar wefan S4C gyda phennod yn cael ei ryddhau am 9pm dros gyfnod o wythnos.[6]

Lleoliad golygu

Wedi'i lleoli ym mhentref dychmygol Cwmderi yng Nghwm Gwendraeth, Sir Gaerfyrddin, mae'r gyfres opera sebon hon yn canolbwyntio ar fywyd, gwaith, cariad a materion teuluol. Ar y dechrau, pentref tawel iawn oedd Cwmderi er gwaethaf perthnasau personol anodd. Tueddai'r straeon ganolbwyntio o gwmpas cartref y henoed Bryn Awelon a'r dafarn leol, Y Deri Arms.

Mae'r dafarn yn dal i fod yn ganolfan pwysig yn yr opera sebon, yn ogystal â siopau a chartrefi'r sawl sy'n byw yng Nghwmderi. Yn ddiweddar, mae'r straeon wedi newid i ganolbwyntio ar faterion mwy dadleuol fel llofruddiaeth, trais, cyffuriau, a dyfodol cymunedau gwledig. Un o themâu rheolaidd y gyfres ers 1974 yw dyfodol yr iaith Gymraeg. Rhai o'r straeon a gydiodd fwyaf yn nychymyg y gwylwyr dros y blynyddoedd diweddar oedd marwolaeth y cymeriad Reg Harries, cymeriad selog yn y gyfres ers yr ail bennod, a'r damwain gar pan gollodd Anita'r babi yr oedd hi'n ei gario.

Ffilmio golygu

Ddiwedd y 90au, codwyd set barhaol i'r gyfres y tu ôl i faes parcio BBC Cymru yn Llandaf, Caerdydd, gan hwyluso'r ffilmio a rhoi cartref parhaol i'r rhaglen. Yn 2012 symudodd y cynhyrchiad i stiwdios newydd pwrpasol 'Porth y Rath' ym Mae Caerdydd lle ail-grewyd stryd fawr Cwmderi a setiau mewnol. Rhennir y stiwdios gyda chynhyrchiadau drama arall y BBC gan gynnwys Doctor Who a Casualty a mae'n bosib i'r rhaglen wneud defnydd achlysurol o'r setiau arall.

Saethir y rhan fwyaf o olygfeydd awyr agored Pobol y Cwm yn ardal pentref Llanbedr-y-fro, i'r gorllewin o Gaerdydd.

Aelodau cast cyfredol golygu

Cymeriad Actor Hyd
Megan Harries Lisabeth Miles 1974–1995, 1996, 2002, 2003, 2011–
David 'Dai Sgaffalde' Ashurst Emyr Wyn 1978–1984, 2001–
Ieuan Griffiths Iestyn Jones 1988–1992, 1995–1997, 2000–2011, 2019–
Eileen Probert (née Walters) Sera Cracroft 1989–1996, 1998, 2007–
Lisa Morgan Beth Robert 1990–1991, 1996–2000, 2019–
Hywel Llywelyn Andrew Teilo 1990–
Cassie Morris (née Nicholas) Sue Roderick 1991–2003, 2018–
Kathleen 'Kath' Pearl Jones Siw Hughes 1993–2007, 2014, 2017–
Mark Jones Arwyn Davies 1993–
Iori Davies Hugh Thomas 1993, 1995, 1997–1999, 2002, 2018–
Sioned Charles (née Rees) Emily Tucker 1993–1996, 2007–
Rhys Llywelyn Jack Quick 1997–2001, 2008–2012, 2014–2015, 2018–
Diane Ashurst (née Francis) Victoria Plucknett 1998–
Jason Francis Rhys Ap Hywel 1998–2007, 2015–
Sara Francis (née Thomas) Helen Rosser Davies 1998, 2000–2007, 2015–
Anita Pierce Nia Caron 1999–
Mai 'Em' Morris Mirain Evans 2000–2004, 2020–
Britt White (née Monk) Donna Edwards 2002–
Garry Monk Richard Lynch 2002–
Iolo Davies-White (né White) Dyfan Rees 2002–2005, 2007, 2009–
Siôn White Jeremi Cockram 2002–
Gwyneth Jones Llinor ap Gwynedd 2003–
Kelly Charles (née Evans) Lauren Phillips 2003–2007, 2015–
Ffion Llywelyn (née Roberts) Bethan Ellis Owen 2004–
Aaron Dafydd Monk Osian Morgan 2006–
Dani Monk (née Thomas) Elin Harries 2007–
Eifion Rowlands Arwel Davies 2007–
Colin Evans Jonathan Nefydd 2008–
Gaynor Llywelyn Sharon Roberts 2008–
Esyllt ‘Izzy’ Evans Caryl Morgan 2008–2010, 2012, 2019–
Gwern Harley Jones Elis Lloyd Hughes 2010–
Arwen Hedd Evie Rose Jenkins 2012–
Richard 'DJ' Ashurst Junior Carwyn Glyn 2014–
Esther Llywelyn Eira Adoh 2016–
Matthew Price Mark Stuart Roberts 2016–
Tyler Davies-White (né Davies) Aled Llyr Thomas 2016–
Ifan Francis Ioan Arnold 2017–
Greta Davies-White Bella Marie Dennis 2017–
Seren Monk Maggie Edith Taylor 2017–
Huwi-John Probert Frazer McCann 2018–
Jaclyn Parri (née Ellis) Mali Harries 2018–
Gerwyn Parri Aled Pugh 2018–
Tesni Parri Lois Meleri-Jones 2018–
Guto Parri Owain Huw 2018–
Brenda Parri Sharon Morgan 2018–
Dylan Ellis Gareth Jewell 2019–
Llio Jones Miriam Isaac 2020–

Cyn aelodau cast ac aelodau achlysurol golygu

Cymeriad Actor Cyfnodau'r cymeriad
Dic "Deryn" Ashurst Ifan Huw Dafydd[7] 1982–1992, 1995, 1999
Mansel Bennett Brinley Jenkins 1991, 1993
Doreen Bevan Marion Fenner 1982–1996, 1999–2001
Stan Bevan Phylip Hughes 1984–1994
Sylvia Bevan Sharon Morgan 1984–1987
John Wyndham-Bowen Dafydd Aeron 1985–1988
Tristan Bowen Griff Williams 1990–1991
Cyrnol Buckley Meredith Edwards 1978
Sharon Burgess Sian Naiomi 1993–1996
Nerys Cadwaladr Gaynor Morgan Rees 1974–1976, 1979–1980, 1982–1986, 1988–1991
Ed Charles Geraint Todd 2011–2019
Gemma Charles Catrin-Mai Huw 2011–2016
Debbie Collins Maria Pride 2005–2006, 2008–2020
Dolores "Dol" Collins Lynn Hunter 2015–2017, 2019
Liam Collins Sion Ifan Williams 2005–2008, 2014, 2016–2017, 2019
Vicky Collins Carli De'La Hughes 2005–2006, 2015–2018, 2019
Ken Coslett Phyl Harries 1988–1991
Linda Coslett Delyth Wyn 1988–1991
Metron Coslett Anwen Williams 1980–1982
Ellen Cullen Nia Medi 1990, 1993–1994
Jack Daniels Dafydd Hywel 1976–1984, 1999, 2004
Robert Daniels Gruffudd Ifan 1983–1984, 2002, 2007
Angie Davies Catherine Ayres 1999–2000
Bella Davies Rachel Thomas 1974–1992
Bethan Davies Catrin Brooks 1999–2002
Jacob Ellis Dillwyn Owen 1974–1993
Meira Ellis Sara McGaughey 1988–1994
Lois Evans Mirain Jones 2008–2013, 2014
Menna Evans Sara Harries Davies 1995, 1996, 2001
Eleri Evans Hazel Wyn Williams 1989–1991
Yvonne Evans Tonya Smith 2009–2012
Nuala Flynn Bethan Jones 1980, 1982
Pat Flynn Iestyn Garlick 1980
Sean Flynn Glyn Pensarn 1980–1981
Emma Francis Catrin Arwel 1998–2005
Hannah Francis Abi Smith / Megan Huws / Ella Peel 2000–2006, 2008, 2017–2018
Terry Francis Huw Emlyn 1991, 1993, 1994, 1997, 2000
Chris Frost Llew Davies 2005–2007
Nansi Furlong Marged Esli 1977, 1980–1989, 2010, 2012, 2014, 2015, 2016
Gwyneth Gregory Nicola Beddoe 1988
Beti Griffiths Margaret Williams 1981–1986
Cathryn Griffiths Mari Emlyn 1981–1982
Colin Griffiths David Lyn 1975–1976, 1981–1982
Annest Griffiths Dilys Price 1975–1976
Hazel Griffiths Jennifer Lewis 1996, 1999–2002, 2007
Iolo Griffiths Terry Dyddgen-Jones 1975–1976
Melanie Griffiths Elin Jones 2000
Carol Gwyther Rhian Morgan 1984–1992
Herbert Gwyther Alwyn Jones 1977–1987
Sandra Gwyther Sian Meredydd 1982–1984
Beti Harries Buddyg Williams 1974–1975
Cadi Harries (née Morris) Betsan Jones 1974–1976
Dillwyn Harries Haydn Edwards 1974–1991
Gareth Harries Jonathan Morgan / Ioan Gruffudd / Rhodri Wyn Miles 1975–1993, 1995, 1996–1997, 2000, 2002, 2003
Reg Harries Huw Ceredig 1974–2003
Rhian Harries Rhian Samuel / Catherine Jones / Debbie Jones 1979–1995, 1997–2004, 2007
Sabrina Harries Gillian Elisa[8] 1974–1984, 1987, 1988, 1999–2010
Wayne Harries Dewi 'Pws' Morris 1974–1987
Jordan Hill Robert Marrable 1999–2000
Paul Hill Ali Yassine 1999–2000
Darren Howarth Huw Euron 1999–2007, 2013–2014, 2015, 2018
Julie Hughes Grug Maria / Ruth Lloyd 2002–2007, 2015, 2016, 2018
Luned Hughes Rhianna Loren 2019
Rhiannon Hughes Heledd Owen 2002–2003, 2007
Sheryl Hughes Lisa Victoria 2001–2018
Huw Humphries Dyfan Roberts 1998–1999
Steffan Humphries Huw Garmon 1997–2004
Cliff James Clive Roberts 1974–1979
Glyn James Ieuan Rhys 1983–1996
Gwenllian James Megan Soffia Evans 1989–1993, 1994
Delme Jenkins Geraint Eckley / Gwyn Vaughan 1993, 1994, 1996, 2001, 2002
Dora Jenkins Olive Michael 1984–1996
Gareth Jenkins Iwan Tudor 1999–2000
Huw "Jinx" Jenkins Mark Flanagan 2005–2015
Lowri Jenkins Meleri Bryn 1996, 1999–2002
Rita Jenkins Olwen Medi 1976, 1985–1993
Tal Jenkins Ernest Evans 1975–1996
Derek Jones Hywel Emrys 1988–2006, 2009, 2012
Dyfan "Dyff" Jones Dewi Rhys 1993–2000
Ricky Jones Evan Rhys Coxley / Tomos West 2005–2019
Sian Jones Sharon Morgan 1978
Stacey Jones Shelley Rees 1993–2007, 2014, 2016, 2017
Gladys Lake Iona Banks 1976–1989, 1991
Idwal Lake Stan Hughes 1986, 1989
Jinnie Lake Catrin Dafydd 1986
Jane Leonard Nia Caron 1990
Colin Lewis Dyfed Thomas 1989–1990
Eddie Lewis Meic Povey 1991–1994, 1996
Gwyn Lewis Emyr Bell 2003–2007
Hywel Lewis Glyn Nicholas 1977
Laura Lewis Beryl Williams 1977
Scott Lewis Alex Harries 2009–2011, 2012
Beth Leyshon Eirlys Britton 1977–1993, 1994
Clare Leyshon Margaret John 1977–1978
Gwyn Leyshon Gareth Bebb 1977–1978
Viv Leyshon Geraint David 1977–1978
Cilla Lloyd Karen Elli 1997–1998, 2000–2001
Jon Markham Steffan Rhodri 1995–1996, 1998
Bleddyn Matthews Dewi Rhys Williams 1996, 1997, 2000–2004
Llew Matthews Rhys Parry Jones 1988–1989, 1992–2001
Nia Matthews Meleri Evans 1993, 1996–1999
Charles McGurk Mei Jones 1997
Jean McGurk Iola Gregory 1987–1997, 1999, 2002
Kirstie McGurk Catherine Treganna 1988–1990, 1993, 1997
Sean McGurk Gwyn Derfel 1991–1993
Fiona Metcalfe Lydia Lloyd Parry 1992–1999
Jamie Metcalfe Rhys Bleddyn 1994
Laura Metcalfe Christine Pritchard 1994, 1999
Oliver Metcalfe Geoffrey Morgan 1994
Bethan "Non" Mererid Gwawr Loader 2017–2018
Brandon Monk Nic McGaughey 2002–2011
Chester Monk James Wilbraham 2002–2018, 2019
Catrin Monk Emily John 2003–2019
Gill Morgan Mair Rowlands 1996–1998
Lisa Morgan Beth Robert 1990–1991, 1996–2000, 2019
Owen Morgan Ioan Evans 2004–2006
Tony Morgan Danny Grehan 1994–1996
Morgan Morgans Rhys Devlin 1978–1979
Alun Morris Dorien Thomas 1983–1984
Glan Morris Cadfan Roberts 1989–1996
Teg Morris Yoland Williams 1991, 1992, 1993, 1994–2004
Beryl Nicholas Iris Jones 1997–2004
Alison Owen Manon Prysor 2000–2002
Elin Owen Alexandra Roach 2001–2002
Olwen Owen Nesta Harris 1977, 1978, 1981, 1984, 1986–1989
Rob Owen Rolant Prys 2000–2002
Harri Parri Charles Williams 1974–1989
Alex Parry Ian Saynor 1994, 1997
Karen Parry Rhian Jones 1992–2001, 2002, 2003
Olwen Parry Toni Carrol 1989, 1992–1995, 1997, 2000
Wiliam Parry Aled Bidder 2014–2016
Rod Phillips Geraint Owen 1991–1995, 1996, 1998, 1999
Meic Pierce Gareth Lewis 1975–1994, 1999–2015
John Powell Dennis Birch 1987–1989
Kevin Powell Iwan "Iwcs" Roberts 1988, 2007–2014, 2015, 2016, 2018
Meinir Powell Ruth Lloyd 1997–1998
Alan Price Meredudd Jones 2000
Rachel Price Judith Humphreys 1995–1998
Tom Price Eric Wyn 1996
Arwel Pritchard Gwyn Parry 1989, 1996
Elgan Pritchard Bryn Fôn 2017–2018
Nellie Pritchard Beti Jones 1980
Angela Probert Tara Bethan 2011–2016, 2018–2019
Courtney Probert Katie Duffin 2011–2016
Jim Probert Alun ap Brinley 2011–2020
Barry Probert Aled Rhydian Lloyd / Geraint Morgan 1982–1993
Kevin Probert Wyn Bowen Harries 1982–1986
Gwyn Prosser Eryl Huw Phillips 1989–1991
Ted Prosser Stewart Jones 1990–1991
Gareth Protheroe Edward Thomas 1986–1990
Denzil Rees Gwyn Elfyn 1984–2012
Marian Rees Buddyg Williams 2001–2016
Ann Rhys Nia Ceidiog 1983–1984
Cadno Richards Catrin Powell 2006–2018
Dwayne Richards Darryl Shute / Paul Morgans 2000, 2004–2005, 2008–2009
Norman Roberts Glyn Pritchard 1991–1992, 2011–2012
Val Roberts Morfydd Hughes 2007–2008, 2010, 2011, 2013, 2015, 2019
Nesta Roberts Catrin Mara 2006–2010
Dewi Roderick William Thomas 1974–1977, 1980–1984
Cai Rossiter Rhys ap William 1996, 2002–2010
Rhydian Samuel Aneirin Hughes 1991–1993
Ivor Seymore Elwyn Williams 1983–1988
Josh Smith John Ogwen 2017, 2018, 2019
Agnes Spotelli Sian Owen 1978–1982
Ron Steadman Wayne Cater 1996–1997, 2006
Geraint Stephens Phil Reid 1997–2002
Edgar Sutton Gari Williams 1979–1985
Gethin Thomas Simon Watts 2010–2018
David Tushingham Islwyn Morris 1974–1996, 1999–2002
Maggie Tushingham Harriet Lewis[9] 1974–1996
Billy Unsworth John Biggins[10] 1990, 1996
Marlene Unsworth Ella Hood 1990
Ron Unsworth Bernard Latham 1989, 1990, 1991, 1992, 1993, 1994, 1996, 1999, 2001
Gina Walters Catrin Fychan 1991–1998
Maureen Walters Rebecca Harries 1996–1999, 2012
Neville Walters Aled Rhys Jones 1986–1988
Clem Watkins Glan Davies 1988–1997
David White Ian Staples 2003
Gwen White Betsan Llwyd[11] 2002–2003
Huw White Rhys Hartley 2002–2013, 2014
Macs White Iwan Rheon / Rhys Bidder 2002–2004, 2008–2013, 2017
Brian Wilcox Ioan Hefin 1996–1997
Delyth Wilcox Nia Samuel 1996–1997

Cyfeiriadau golygu

  1.  Pobol y Cwm (1974-). BFI Online. Adalwyd ar 17 Mawrth 2017.
  2. S4C niferoedd gwylio
  3. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t. 688. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  4. Genome - Rhestr rhaglenni y Radio Times
  5. Michael Sheen ac enwogion eraill Pobol y Cwm , BBC Cymru Fyw, 3 Mehefin 2019. Cyrchwyd ar 4 Mehefin 2019.
  6. Cyfres aml-blatfform gan gynhyrchwyr Pobol y Cwm , BBC Cymru Fyw, 25 Mawrth 2013. Cyrchwyd ar 5 Medi 2017.
  7. Wightwick, Abbie (17 October 2009). "Pobol Y Cwm celebrates 35th birthday". Wales Online. Media Wales Ltd.
  8. "Gillian Elisa Biography". Gillian Elisa.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-14. Cyrchwyd 2020-05-29.
  9. "Harriet Lewis". British Film Institute.
  10. "John Biggins". John Biggins.com. Aerta.
  11. "Tears of grief in the valley". BBC Press Office. BBC. 5 September 2003.

Dolenni allanol golygu