Roedd Bettie Page (22 Ebrill 192311 Rhagfyr 2008) yn fodel o'r Unol Daleithiau a ddaeth yn enwog yn ystod y 1950au am ei modeli ffetis a'i lluniau pinyp. Dylanwadodd ei phryd a'i gwedd, gwallt du fel y fagddu a'i rhimyn o wallt ar nifer o artistiaid eraill.

Bettie Page
GanwydBettie Mae Page Edit this on Wikidata
22 Ebrill 1923 Edit this on Wikidata
Nashville Edit this on Wikidata
Bu farw11 Rhagfyr 2008 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Vanderbilt
  • Coleg Peabody, Tennessee
  • Prifysgol Multnomah
  • Hume-Fogg High School Edit this on Wikidata
GalwedigaethPlaymate, model hanner noeth, model Edit this on Wikidata
Taldra166 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau58 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auPlayboy Playmate y Mis Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bettiepage.com Edit this on Wikidata

Roedd Bettie Page hefyd yn un o'r Playmates y Mis cynharaf ar gyfer cylchgrawn Playboy. Dywedodd sefydlwr Playboy, Hugh Hefner "Credaf ei bod yn wraig rhyfeddol, yn ffigwr eiconig yn niwylliant pop a ddylanwadodd ar rywioldeb, chwaeth ym myd ffasiwn, rhywun a gafodd ddylanwad aruthrol ar ein cymdeithas."[1]

Yn ystod ail hanner ei bywyd, dioddefodd o iselder, tymer treisgar a sawl blwyddyn mewn ysbyty meddwl.[2] Yn ystod y 1960au trodd at Gristnogaeth a gweithiodd fel cenhadwr y Bedyddwyr yn Angola. Ar ôl blynyddoedd o fywyd cymharol di-nod, ail-gynnwyd ei phoblogrwydd yn y 1980au ac mae ganddi genfogaeth gwlt sylweddol.

Dolenni Allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Bettie Page dies at 85 / Pin-up queen was a pop culture phenomenon". Variety. 11 Rhagfyr, 2008. Adalwyd 27 Chwefror, 2009.
  2. "Pinup queen Bettie Page dead at 85". Los Angeles Times. 2008-12-11. Adalwyd 2008-12-11.
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.