Beverley Humphreys

Mae Beverley Anne Humphreys, MBE (ganwyd Tachwedd 1947 [1]), yn gantores soprano a darlledwr radio Cymreig. Mae hi wedi dod yn adnabyddus am ei gwaith gyda ffoaduriaid. [2] Yn 2022 derbyniodd yr MBE am "wasanaethau i Gydlyniant Cymunedol a Darlledu".[3]

Beverley Humphreys
Ganwyd1947 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyflwynydd radio, canwr Edit this on Wikidata

Daw Humphreys o Bontypridd a dechreuodd ei gyrfa cerddorol gydag Opera Cenedlaethol Cymru[4] . Mae hi wedi perfformio mewn sawl sioe un fenyw, gan gynnwys Seven Women under One Hat, A Tribute to Ivor Novello, With Melody in Mind a Legendary Ladies - Judy Garland, Gertrude Lawrence a Marlene Dietrich .

Mae ganddi ddwy ferch ac un mab.[4] Yn 2010 daeth yn Uchel Siryf Morgannwg Ganol.[5] Trefnodd arddangosfa o'r enw "Let Paul Robeson Sing!" i goffau cysylltiadau Paul Robeson â Chymru. [6][5]

Mae Humphreys yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar BBC Radio Wales,[4] fel Showtime a Beverley's World of Music, ac wedi cyflwyno cystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd ar gyfer radio ar sawl achlysur.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Beverley Anne Humphreys". Companies House (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.
  2. "Beverley Humphreys: The opera singer doubling as a football coach". BBC News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 November 2020. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.
  3. "Queen's Birthday Honours List 2021: All the Welsh people honoured". WalesOnline (yn Saesneg). 2 Mehefin 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mawrth 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.
  4. 4.0 4.1 4.2 "Beverley's World of Music". BBC Radio Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.
  5. 5.0 5.1 Abbie Wightwick (19 Mehefin 2010). "Singer Beverley Humphreys becomes high sheriff". WalesOnline (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.
  6. Jeff Sparrow (2 Gorffennaf 2017). "How Paul Robeson found his political voice in the Welsh valleys". The Observer (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Mai 2022. Cyrchwyd 3 Mehefin 2022.