Bhaji yw fyrbryd sbeislyd neu gwrs cyntaf sy'n debyg i ffriter, sy'n tarddu o is-gyfandir India, gyda sawl amrywiad.[1] Mae'n fwyd byrbryd poblogaidd yn Kerala, Tamil Nadu, Maharashtra, Gujarat, Andhra Pradesh, Telangana, Karnataka, Assam, Gorllewin Bengal ac Odisha yn India, ac mae'n cael ei werthu ar stondinau ochr y stryd.

Yn aml y tu allan i Dde a Gorllewin India, gelwir byrbrydau o'r fath yn pakora.

Mae bhajis yn rhan o fwyd traddodiadol Gwjarati Marathi, Tamil a Telugu, sy'n cael ei weini ar achlysuron arbennig ac ar wyliau. Yn gyffredinol maent yn cael eu gweini gyda phaned o goffi, te, neu yameen traddodiadol.

Mae amrywiadau yn cynnwys y bajji tsili, bajji tatws, a bajji bara (neu pakoda bara). Enw fersiwn arall yw bonda (yn ne India), vada (ym Maharashtra) a gota (yn Gujarat). Mae bonda wedi'i lenwi â thatws neu lysiau cymysg, tra bod gota wedi'i wneud o ddail ffenigrig gwyrdd.

Mae bhajis winwns yn aml yn cael eu bwyta fel cwrs cyntaf mewn bwytai Eingl-Indiaidd cyn y prif gwrs, ynghyd â poppadoms a byrbrydau Indiaidd eraill. Gellir eu gweini gydag ochr o salad a sleisen o lemwn, neu gyda siytni mango. Yn draddodiadol fydd ganddynt blas ysgafn.[1]

Mae Record Byd Guinness ar gyfer y bhaji winwns mwyaf yw un sy'n pwyso 102.2kg (225 pwys 4.9oz) a wnaed yn Bradford yn 2011.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Cloake, Felicity (13 November 2013). "How to make the perfect onion bhajis". The Guardian. Cyrchwyd 26 November 2018.
  2. "Largest onion bhaji". Guinness World Records. Guinness World Records. Cyrchwyd 26 November 2018.