Cyllell neu gleddyf byr wedi ei ddylunio i'w osod ar flaen dryll, gan amlaf reiffl, yw bidog.[1]

Bidog
Enghraifft o'r canlynolcold weapon, weapon functional class Edit this on Wikidata
Mathpole weapon Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod17 g Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Bidogau Americanaidd o'r Ail Ryfel Byd.

Dyfeiswyd gyntaf yn Bayonne, Ffrainc, oddeutu 1670, a fe'i gelwid yn baïonnette gan y Ffrancod. Dechreuwyd eu defnyddio ym Mhrydain yn 1693. Yn y dechrau roedd ganddo goesyn pren i'w osod i mewn i faril y dryll. Yn 1688 dyfeisiwyd y bidog soced, sy'n galluogi'r milwr i saethu'r dryll heb ddatgysylltu'r bidog, a rhoddir yr enw bidog plwg ar yr hen fath o fidog.

Cyfeiriadau golygu

  1.  bidog. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2019.