Gwarchodfa fiosffer yw Biosffer Dyfi sy'n cwmapsu Bro Ddyfi ac Aberystwyth. Ers 2009, mae'r ardal wedi ei chofrestru gan UNESCO fel ardal arbennig ar gyfer pobl a natur, un o 553 a glustnodwyd ganddynt fel rhan o raglen Dyn a'r Biosffer.

Biosffer Dyfi
Mathgwarchodfa bïosffer Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.32°N 4°W Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Roedd ardal llai, o amgylch Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi wedi ei ddynodi fel Biosffer ym 1976, ond roedd yn rhaid ail-ymgeisio wedi i UNESCO newid y diffiniad o Fiosffer fel fod rhaid iddo gynnwys ardaloedd lle mae pobl yn byw ac yn gweithio. Ehangwyd yr ardal i gynnwys holl ddalgylch afonydd Dyfi a Leri (ac felly tref Machynlleth a phentrefi megis Dinas Mawddwy, Corris, Llanbrynmair a Thalybont, a thref Aberystwyth, a dyranwyd y statws newydd ym mis Mehefin 2009.[1]

Ardaloedd craidd golygu

Mae tair rhan i ardal graidd y Biosffer, sef yr ardaloedd sydd â diddordeb arbennig o ran natur: Cors Fochno, Coed Cwm Einion, a rhan o ardal gadwraeth morol Pen Llŷn a'r Sarnau.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan UNESCO; adalwyd 21/06/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-24. Cyrchwyd 2012-06-22.

Dolen allanol golygu