Corris

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref a chymuned yn ne Gwynedd yw Corris ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Yn 2001 roedd poblogaeth y pentref yn 613 o drigolion.[1] Mae'r gymuned yn cynnwys y pentrefi Aberllefeni, Corris Isaf, Corris Uchaf a Phantperthog, pentrefi a sefydlwyd yn sgil datblyu'r chwareli llechi yn y 19g. Caewyd chwarel Aberllefenni yn 2003. Roedd y pentref ar yr hen ffordd dyrpeg o Ddolgellau i Fachynlleth; mae priffordd yr A487 a gymerodd ei lle yn osgoi canol y pentref.

Corris
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6536°N 3.8419°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000058 Edit this on Wikidata
Cod OSSH755078 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[3]

Pentref Corris

Geirdarddiad golygu

Daw'r enw, a gofnodwyd gyntaf yn y 13g, o'r gair Cymraeg corres ('cor/corrach benywaidd'). Yma y mae'n debyg ei fod yn golygu 'un fechan', gan gyferio at yr afon (Afon Corris gynt ond bellach Afon Deri) sy'n llifo i Afon Dulas yn Aber Corris.[4]. Felly er bod nifer o chwareli llechi yn y cyffiniau, nid oes a wnelo'r enw Corris ddim oll â'r gair Saesneg quarries. Yn y gorffennol cynigiwyd rhai esboniadau ffansïol eraill, megis y canlynol gan Thomas Morgan ('Afanwyson', 1850–1939): 'We find the forms Corys and Corus in the Cambrian Register for 1795. Some think the place takes its name from a saint called Corus. It is also said that Cunedda Wedig had a son called Coras. Others think that the river which gives the place its name, was called Corus from its making round excavations in the angles of its banks.'[5]

Mae 'Corris' hefyd yn enw ar afon fechan yn Sir Ddinbych, un o isafonydd Clywedog sydd yn ei thro yn llifo i Afon Clwyd.

Ar un adeg gelwid y pentref yn Abercorris (Abercorys ar rai mapiau cynnar).

Hanes Corris golygu

Saif Corris ar lan orllewinol Afon Dulas, sy'n ffin rhwng Gwynedd a Phowys yma. Mae Afon Deri yn llifo trwy'r pentref ei hun cyn ymuno ag Afon Dulas. Yn ôl pob tebyg yr oedd ffordd Rufeinig Sarn Helen hefyd yn rhedeg trwy'r pentref. Ceir yma sawl tafarn gan gynnwys "Tafarn y Chwarelwr".[6]

Ar un adeg yr oedd nifer o chwareli llechi yma ac agorwyd tramffordd yn 1859 i gludo'r llechi i Fachynlleth ac ymlaen at Afon Dyfi i'w llwytho i gychod o'r cei yn Nerwenlas neu Morben.[7] Ceffylau oedd yn tynnu'r wageni'n wreiddiol ond yn 1878 agorwyd Rheilffordd Corris. Ail-agorwyd rhan o'r hen reilffordd yn y 2010au: o Gorris i Gyffordd Maespoeth.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Corris (pob oed) (723)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Corris) (367)
  
52.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Corris) (339)
  
46.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Corris) (106)
  
32.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Gorris golygu

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyfrifiad 2001.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 97.
  5. Thomas Morgan, The Place-names of Wales. Revised second ed., Newport: J. E. Southall, 1912, t. 12.
  6.  Tafarn y Chwarelwr. Adalwyd ar 6 Mai 2012.
  7. Gwyddoniadur Cymru (Prif Olygydd John Davies); Gwasg Prifysgol Cymru, 2008.
  8. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  9. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  10. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.