Mae blasbwynt yn un o nifer o gorfynnau bach conig neu siâp fflasg, yn epitheliwm y tafod yn bennaf, sef yr organau terfynol o'r synnwyr blasu. Mae blasbwyntiau yn cynnwys celloedd cynhaliol a chelloedd synhwyraidd niwroepithelaidd, sef celloedd derbyn blas. Mae derbynyddion blas wedi'u lleoli o amgylch strwythurau bach o'r enw'r papiliâu sydd ar wyneb y tafod, y daflod feddal, darn uchaf yr esoffagws, y foch a'r epiglotis.  Mae'r strwythurau hyn yn synhwyro pum canfyddiad blas: hallt, sur, chwerw, melys a sawrus (umami). Trwy gyfuniad o'r elfennau hyn rydym yn canfod "blasau." Mae'n fyth poblogaidd fod y pum blas hyn yn cael eu blasu ar rannau gwahanol o'r tafod.  Mewn gwirionedd, gellir eu blasu ar unrhyw ran o'r tafod.  Drwy dyllau bach ar epitheliwm - y mandyllau blas - mae darnau o'r bwyd yn cael eu hydoddi mewn poer ac yn dod i gysylltiad â'r derbynyddion blas. Mae'r rhain wedi'u lleoli ar frig y celloedd derbyn blas sy'n ffurfio'r blasbwyntiau.  Mae'r celloedd derbyn blas yn anfon y wybodaeth sydd wedi'i synhwyo gan y clystyrau o dderbynyddion amrywiol a'r sianeli ïonau i ardaloedd blasu'r ymennydd drwy gyfrwng y seithfed, y nawfed a'r degfed nerf greuanol.

Blasbwynt
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathdarn o organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Rhan osystem y synhwyrau nerfol, Tafod Edit this on Wikidata
Yn cynnwystaste bud cell Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar gyfartaledd, mae gan y tafod ddynol 2,000–8,000 o flasbwyntiau.