Ble Rwyt Ti'n Myned?
Cân werin draddodiadol yw Ble Rwyt Ti'n Myned? Mae awdur y geiriau a chyfansoddwr y dôn yn anhysbys.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith neu gyfansodiad cerddorol |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
|
|||||
Yn cael trafferth gwrando ar y ffeil? Gweler Cymorth - sain. |
Gwnaethpwyd y gân yn destun sbort yn y gyfres Cymreig Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan ar S4C yn ôl yn yr 80au.
Geiriau
golygu"Ble 'r wyt ti'n myned yr eneth ffein ddu?"
"Myned i odro, O, Syr." Mynte hi.
"O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i hi."
"Gaf fi ddod gyda thi, yr eneth ffein ddu?"
"Gwnewch fel y mynnoch, O, Syr." Mynte hi.
"O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i hi."
"Gaf fi roi cusan iti, yr eneth ffein ddu?"
"Beth ydyw hwnnw, O, Syr?" Mynte hi.
"O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i hi."
"Gaf fi dy briodi, yr eneth ffein ddu?"
"Os bydd Mam yn foddlon, O, Syr!" Mynte hi.
"O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i hi."
"Beth yw dy ffortiwn, yr eneth ffein ddu?"
"Dim ond yr hyn a welwch, O, Syr!" Mynte hi.
"O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i hi."
"Yna ni'th briodaf, yr eneth ffein ddu!"
"Ni ofynnais i chwi, O, Syr." Mynte hi.
"O'r ddwy foch goch, a'r ddau lygad du,
Draw wrth droed y mynydd y gwelais i hi."