Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Cyfres gomedi deledu i blant o'r 1980au oedd Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan. Crëwyd ac ysgrifennwyd y gyfres gan Wynford Ellis Owen a Mici Plwm, y ddau actor oedd yn portreadu'r cymeriadau 'Syr Wynff ap Concord y Bos' a 'Plwmsan y Twmffat Twp'. Cynhyrchwyd y gyfres gyntaf gan gwmni teledu Burum Cyf, cyn ei throsglwyddo i ofal Ffilmiau Llifon.

Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan
Teitlau cyfres S4C
Enghraifft o'r canlynolrhaglen deledu Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1982
AwdurWynford Ellis Owen a Mici Plwm
Cysylltir gydaWynford Ellis Owen a Mici Plwm
Dod i ben1989
Syr Wynff a Plwmsan S4C

Cefndir

golygu
 
Syr Wynff a Plwmsan ar eu motorbeic.

Roedd yr actorion Wynford Ellis Owen a Mici Plwm wedi cwrdd â'i gilydd tra'n gweithio i Gwmni Theatr Cymru yn y 1970au a'r 1980au. Ymddangosodd y ddau mewn pantomeimiau fel Mawredd Mawr a Dan y Don. Sylweddolodd y ddau'n fuan iawn eu bod yn cydweithio'n dda gyda'i gilydd, er gwaetha'r ffaith bod Wynford yn gaeth i alcohol, bryd hynny. Mae'r ddau actor wedi sôn yn agored iawn am effaith alcoholiaeth ar eu perthynas â'u gwaith tra'n ffilmio'r gyfres, yn eu hunangofiannau, ac yn y ddrama Gwin Coch a Fodca o 1998.

Cynyrchiadau theatr oedd cychwyn y daith i'r cymeriadau, cyn trosglwyddo'r anturiaethau i'r sgrin, yn sgil dyfodiad S4C ym 1982.

Darlledwyd y bennod gyntaf Fferm Syr Wynff, ar y 5 Tachwedd 1982. Darlledwyd 6 chyfres dros 8 mlynedd, gyda dwy gyfres o dan gwmni Burum a phedair o dan Llifon.

Ysgrifennwyd pob pennod gan Wynford Ellis Owen a Mici Plwm, gyda Graham Edgar yn gyfarwyddwr i Burum Cyf, a Gareth Lloyd Williams yn gyfarwyddwr Ffilmiau Llifon. Dafydd Meirion, Wynford Ellis Owen, a Gareth Lloyd Williams oedd y cynhyrchwyr.

Cyhoeddwyd bod y gyfres yn dod i ben ym 1989, a threfnwyd ymgyrch i achub y cymeriadau, gyda thros 15,000 o bobl yn arwyddo deiseb a gafodd ei chyflwyno i benaethiaid S4C yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, yn Nyffryn Nantlle.

Recordiwyd y cyfresi yn Nyffryn Nantlle a'r cylch.

Cymeriadau

golygu

Amlinelliad

golygu

Mae'r gyfres wedi'i selio ar y grêd "fod Syr Wynff allan i goncro'r byd ac i fod yn llwyddiannus ym mhob dim ro’dd o’n ymgyrraedd ato", yn ôl Wynford Elis Owen yn ei hunangofiant Raslas Bach a Mawr!. "Ond, ymhob pennod, wrth gwrs, byddai’n methu’n druenus yn y diwedd oherwydd ei amryfusedd ef ei hun. Plwmsan o’dd ei gymar hanner-twp, ond yn y bon, Syr Wynff o’dd y twpa ohonynt i gyd.”[1]

Yn y cyfresi cynnar a gynhyrchwyd gan Gwmni Burum, roedd pob pennod yn cychwyn tu allan i dai Syr Wynff a Plwmsan, cyn i Syr Wynff ddod allan o'i dŷ, i groesawu'r gynulleidfa, a'u hysbysu am antur y dydd. Tua hanner ffordd drwy llith Syr Wynff, ymddangosai Plwmsan o'r tŷ drws nesaf, gan dorri ar draws Syr Wynff. Canlyniad hynny fydde rhoi "Slepjan" neu dri iddo.

Mae gan y ddau gymeriad 'daid', oedd yn byw ar ben eu hunain. Roedd taid Syr Wynff yn ei fygwth efo "gwialen fedw" [casgliad o frigau mân a ddefnyddid i gosbi plentyn fel chwip]. Roedd Taid bob amser yn cefnogi Syr Wynff gyda'i gynlluniau mawr, ond roedd Taid yn aml yn dweud wrth y gynulleidfa fod ganddo deimlad fod rhywbeth mawr am fynd o'i le.

Bu'r ddau hefyd yn ymweld â Musus Siop y Gornel yn aml. Yma mae Plwmsan yn cael ei "bop loli", ac mae Syr Wynff yn cael trafferth gan geidwad y siop blin.

Marchnata

golygu

Ymddangosodd 'Syr Wynff a Plwmsan' yn y cylchgronau Sbondonics, Sboncyn, a Phenbwl. Roedd y comig yn seiliedig ar ddyluniadau'r dyluniwr graffeg Keith Trodden. Dyluniadau Keith sydd hefyd ar ddechrau pob pennod gan gwmni Burum.

Ym 1984, cyhoeddodd Cyhoeddiadau Mei lyfr posau a chomig o'r enw Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, a gafodd eu hysgrifennu gan Mici Plwm.

Mae Cwmni Sain wedi rhyddhau tri fideo o'r Anturiaethau, ond nid ydynt bellach ar gael ar eu gwefan.

Yn 2004, rhyddhawyd y DVD gan Sain[2] ac yn 2016 rhyddhawyd DVD o gynnwys rhai o'r fideos blaenorol.[3] Roedd y DVD hwn yn cyd-fynd gyda thaith y sioe Raslas Bach a Mawr!.

Raslas Bach a Mawr!

golygu
 
Iwan Charles a Llŷr Ifans yn y sioe Raslas Bach a Mawr!

Cyflwynwyd y cymeriadau i genhedlaeth newydd yn sgil sioe lwyfan gan Theatr Bara Caws yn 2016. Iwan Charles a Llŷr Ifans oedd yn portreadu'r ddau gymeriad eiconig.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach a Mawr!. Gwasg Gomer.
  2. "Y DVD ar wefan Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2011-07-27.
  3. "Yr ail DVD ar wefan Sain". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-26. Cyrchwyd 2017-06-13.