Bleddyn Owen Huws

Academydd a darlithydd o Gymro

Ysgolhaig a hanesydd llenyddiaeth Gymraeg yw Bleddyn Owen Huws. Mae'n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe'i etholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ar 23 Mai 2018.[1]

Bleddyn Owen Huws
GanwydDyffryn Nantlle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlithydd, person dysgedig, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amDetholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch, Martha, Jac a Sianco, Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927) Carneddog Edit this on Wikidata
TadO. P. Huws Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Ar y cyd ag A. Cynfael Lake yn 1995, sefydlodd y cylchgrawn Dwned, sef cylchgrawn hanes a llenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol, ac mae'r ddau yn parhau'n gyd-olygyddion arno. Mae'n ddarlithydd sy'n cyfrannu'n rheolaidd i gymdeithasau diwylliannol a llenyddol ledled Cymru. Ei brif faes ymchwil yw cyfnod y Cywyddwyr a'r Dadeni. Cyhoeddodd yn helaeth hefyd ar rai o lenorion Eryri yn yr 20g, megis y llyfryn Hanes Cyhoeddi Cerddi Eryri (1927), Carneddog a gyhoeddwyd 30 Tachwedd, 1999 gan Gyhoeddiadau Barddas,[2] ac am y gyfrol Detholiad o Gywyddau Gofyn a Diolch a gyhoeddwyd eto gan Gyhoeddiadau Barddas yn 1988.

Mae'n fab i O. P. Huws, un o sefydlwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn enedigol o Ddyffryn Nantlle, Gwynedd.

Llyfryddiaeth

golygu
 

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwobrau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-13. Cyrchwyd 2019-01-15.
  2. Gwefan Gwales; adalwyd 8 Chwefror 2015
  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.