O. P. Huws
Dyn busnes o Gymro
Dyn busnes a chynghorydd sîr yw Owen Pennant Huws (ganwyd Mawrth 1943)[1] neu O. P. Huws fel y'i adnabyddir.
O. P. Huws | |
---|---|
Ganwyd | Owen Pennant Hughes Mawrth 1943 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | person busnes, cynghorydd |
Cyflogwr | |
Plant | Bleddyn Owen Huws |
Un o'i fusnesau cyntaf oedd magu cyw ieir a thyrcwns yn eu miloedd ar ei fferm yn Nebo, Gwynedd. Sefydlodd adran fideos Cwmni Recordiau Sain yn y 1990au. Roedd yn un o sefydlwyr Antur Nanlle yn 1992 ac ymddeolodd o'r bwrdd yn 2016. Roedd yn un o gyfarwyddwyr Bragdy Lleu ym Mhenygroes rhwng 2013 a 2017.[1]
Roedd yn gynghorydd Plaid Cymru dros Llanllyfni a Nantlle ar Gyngor Sir Gwynedd hyd at 2012.[2]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 Ty'r Cwmniau - Owen Pennant HUWS. Ty'r Cwmniau. Adalwyd ar 16 Ionawr 2019.
- ↑ Nasareth i Bethlehem. BBC Cymru (18 Rhagfyr 2008). Adalwyd ar 15 Ionawr 2019.