Cylchgrawn Cymraeg a gyhoeddwyd yn gyntaf ar 25 Mehefin 1953 ar gyfer Gŵyl yr Urdd yng Nghastellnewydd Emlyn oedd Blodau'r Ffair; gwerthwyd 4,000 o'r rhifyn cyntaf. Syniad Aneurin Jenkins Jones oedd cyhoeddi'r cylchgrawn ysgafn a doniol hwn. Mae'n bosib i'r teitl ddod o deitl cân werin Ffani Blodau'r Ffair. Y golygydd oedd R. E. Griffith ac ymddangosodd y gyfrol ddwywaith y flwyddyn – ym Mehefin a Rhagfyr o 1953 hyd ddechrau’r 1970au. Urdd Gobaith Cymru oedd y cyhoeddwyr.

Blodau'r Ffair
Enghraifft o'r canlynolcylchgrawn Edit this on Wikidata
Clawr Rhif 11

Roedd ei arddull yn ffres a newydd ac yn wahanol i unrhyw beth arall yn y Gymraeg, yr adeg honno.[1] Ceir yn y cylchgronau storïau a cherddi gogleisiol, cartwnau gan Hywel Harries a llawer o englynion digri, e.e. englyn beddargraff ysgafn i'r 'Bwtsiar' gan Iorwerth H. Lloyd, Dolgellau:

Wat annwyl, cefaist hunell – yn y bedd
O sŵn buwch a phorchell;
Unig heb gig yw dy gell
Wedi gollwng dy gyllell.[2]

Ffurfiwyd grŵp o gerddorion o'r enw 'Blodau'r Ffair' a chyhoeddwyd feinyl (record) o'r un enw gan gwmni Cambrian yn 1972.[3] Caneuon ysgafn, gwerinol oedd y cynnwys, ac un o'r traciau oedd "Love Me Tender" gan Elvis Presley. Ymhlith y cantorion roedd Olwen Lewis, athrawes yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy a oedd hefyd yn arweinydd y grŵp o ferched; ceir ffair enwog iawn ym Mhorthaethwy, a roddodd ei enw i'r criw.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. discoverwelshmusic; adalwyd 25 Mehefin 2017.
  2. Colofn Iwan Morgan; Llafar Bro; Ionawr 2015.
  3. discogs.com; adalwyd 25 Mehefin 2017.
  4. www.45cat.com; adalwyd 25 Mehefin 2017.