Cartŵn

(Ailgyfeiriad o Cartwn)

Gall cartŵn fod yn un o sawl dull o ddarlunio. Mae sawl dehongliad o'i ystyr wedi tarddu o'r ystyr gwreiddiol. Mae cartŵn (o'r Eidaleg cartone a'r gair Iseldireg/Flandrys "karton", sy'n golygu papur neu gerdyn trwm, cryf) yn ddarlun maint llawn a wneir ar bapur fel sail astudiaethau pellach megis paentio neu bwythwaith. Defnyddir cartwnau'n aml yn y broses o greu ffresgo, i gysylltu'n fanwl gywir, pob rhan o'r cyfansoddiad pan baentir ar blastr dros gyfnod o ddyddiau. Mae gan y cartwnau'n aml, nifer o dyllau pin ynddynt ble defnyddiwyd hi i amlinellu'r darlun ar y plastr. Mae cartwnau arlunwyr megis Raffael a Leonardo da Vinci yn werthfawr iawn.

Enghraifft o gartŵn CGI, "Carreg fedd fechan" (Petite pierre tombale).

Argraffu golygu

Gweler hefyd: Cartŵn gwleidyddol.

Ym myd argraffu modern, ystyr cartŵn ydy delwedd ddigri. Defnyddir y gair yn y cyd-destun yma ers 1843 pan ddefnyddiodd y Cylchgrawn Punch y gair i ddisgrifio darluniau gwatwarus, yn arbennig darluniau gan John Leech.

Animeiddio golygu

Oherwydd steil tebyg stribedi comig a ffilmiau cynnar wedi eu hanimeiddio, defnyddiwyd y gair "cartŵn" am "animeiddio", dyma'r ffurf o'r gair cartŵn a ddefnyddir gan amlaf heddiw. Gellir gweld cartwnau gan amlaf ar y teledu neu yn y sinema. Crëir y rhain drwy ddangos cyfres o ddarluniau yn sydyn iawn i roi'r argraff o symudiad neu drwy gynhyrchiad cyfrifiadurol.

Gwyddoniaeth golygu

Defnyddir y term cartŵn weithiau ym myd gwyddoniaeth i olygu diagram, yn arbenig un sy'n cyfleu digwyddiadau cyffredinol yn hytrach nag esiampl arbennig.

Dolenni Allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


  Eginyn erthygl sydd uchod am gelf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.