Blodau mewn fâs

paentiad gan Gwen John

Darlun olew gan yr arlunydd Gwen John (1876–1939) ydy Ffiol o Flodau. Er nad oes dyddiad ar y paentiad, gwyddom iddo gael ei baentio yn gynnar yng nghanrif 20. Rhoddwyd y darlun yn rhodd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Gymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru (Contemporary Art Society of Wales (CASW)) yn 1957.

Blodau mewn fâs
Enghraifft o'r canlynolpaentiad Edit this on Wikidata
CrëwrGwen John Edit this on Wikidata
Deunyddpaent olew Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1910 Edit this on Wikidata
Genrebywyd llonydd Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Ffiol o Flodau (Vase of Flowers), paentiad olew gan Gwen John (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Ffiol llawn o flodau pinc a gwyn, gyda pheth dail gwyrdd, ar fwrdd pren sydd yn y paentiad hwn, gwelir fod rhai o'r petalau wedi syrthio ar y bwrdd. Ceir lliain binc wedi'i gosod dros fwrdd arall yng nghefndir y llun. Y cyfrwng a ddefnyddiwyd yw paent olew a hynny ar bren, gyda brwsh impasto. Efallai i'r llun gael ei greu mewn ystafell yn ei chartref.

Ym marn Cecily Langdale, a sgwennodd fywgraffiad o Gwen, mae'r llun yn perthyn i ddiwedd y 1910au.[1] Ceir paentiad eitha tebyg gan Gwen o'r enw "Blodau", sydd i'w weld heddiw yng Ngaleri Celf Manceinion.

Disgrifiodd y beirniad celf Mary Taubman y llun fel "classical and conceptual image and has the appearance of being a considered and reflective development on the original."[2]

Europeana 280

golygu

Yn Ebrill 2016 dewisiwyd y darlun fel un o ddeg llun eiconig i gynrychioli Cymru yn y prosiect "Gwaith Celf Europeana".[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Langdale, Cecily (1987). Gwen John. New Haven and London: Yale University Press. tud. 153. ISBN 0-300-03868-2.
  2. Taubman, Mary (1985). Gwen John. Cornell University Press.
  3. Gwefan Europeana; adalwyd 11 Rhagfyr 2017.

Dolenni allanol

golygu