Gwen John

arlunydd

Arlunydd o Gymru oedd Gwen John (22 Mehefin 187618 Medi 1939). Ganed Gwendolen Mary John yn Hwlffordd, Sir Benfro a roedd yn chwaer i'r arlunydd Augustus John (4 Ionawr 1878 - 31 Hydref 1961).

Gwen John
GanwydGwendolen Mary John Edit this on Wikidata
22 Mehefin 1876 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw18 Medi 1939 Edit this on Wikidata
Dieppe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Gelfyddyd Gain Slade
  • Académie Carmen Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, artist, drafftsmon, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYoung Woman Holding a Black Cat, A Lady Reading, Dorelia in a Black Dress, Y Glafes ar Wella, Y Lleian Edit this on Wikidata
Arddullportread Edit this on Wikidata
TadEdwin William John Edit this on Wikidata
PartnerAuguste Rodin, Ambrose McEvoy Edit this on Wikidata

Magwraeth

golygu

Yn 1884, yn ferch ifanc, symudodd y teulu i Ddinbych-y-pysgod. Hi oedd yr ail o bedwar plentyn Edwin William John ac Augusta (née Smith). Brawd hynaf Gwen oedd Thornton John a'i chwaer ieuengaf oedd Winifred.[1] Bu ei mam, a oedd yn mwynhau peintio dyfrlliw, yn wael am flynyddoedd a bu farw pan oedd Gwen yn wyth oed.[2] Yn aml, byddai'r pedwar plentyn yn mynd i'r traeth i ymarfer sgetsio, ond nid oes gwaith wedi goroesi o'r cyfnod cynnar; y gwaith cyntaf yw llun a beintiodd pan oedd yn 19 oed.[3]

Yn 1896 dilynodd ei brawd iau i Ysgol y Slade, Llundain i astudio celf, ac fel yntau arbenigodd mewn portreadau o bobl. Y Slade oedd yr unig goleg yng ngwledydd Prydain i ganiatau merched.[4] ac i gynilo, rhannodd fflat gyda'i brawd Augustus, gan fwyta ffrwythau a chnau, fel arfer.

Ffrainc a phaentio

golygu

Treuliodd y rhan fwyaf o'i hoes yn Ffrainc a rhoddwyd mwy o sylw tan y 2000au i'w brawd Augustus, ond bellach mae wedi ennill ei phlwyf fel un o arlunwyr mwyaf sensitif Cymru. Symudodd i Ffrainc yn 1903 ac ni ddychwelodd i Gymru. I Baris y symudodd i ddechrau, gan fyw ar ei phen ei hun, gan astudio yn Académie Carmen dan James McNeill Whistler ac yna i faestref Meudon. Dychwelodd i Lundain yn 1899, ac arddangosodd ei gwaith am y tro cyntaf yn 1900, yn y New English Art Club (NEAC).]].[5][6] Oherwydd prinder o arian, ychydig iawn o ddeunydd peintio oedd ganddi a bu'n byw fel sgwatwraig rhwng 1900–01.[7]

Cafodd berthynas am gyfnod o ddeg mlynedd gyda'r cerflunydd a pheintiwr enwocaf ei ddydd, Auguste Rodin, a bu'n modelu iddo hefyd. Ceir llawer o lythyrau rhwng y ddau sy'n dangos fod Gwen yn berson cryf iawn, a bod gan Gwen deimladau cryf at ferched yn ogystal â dynion. Wedi deg mlynedd, roedd ffordd newydd o feddwl Gwen yn dychryn Rodin a chadwodd hi led braich i ffwrdd, a daeth y berthynas i ben. Cyfarfu Gwen a nifer o beintwyr a meddylwyr mawr y dydd gan gynnwys Matisse, Picasso, Brâncuși, a'r bardd Rainer Maria Rilke, ond ni ddilynodd ffasiwn y dydd, ac felly ni ddaeth yn enwog a gweithiodd fel meudwy am lawer o'r amser.

Roedd Gwen yn gymeriad tawel, teimladwy ac roedd ei gwaith yn adlewyrchu hynny: yn gynnil ei phaent, yn llawn teimlad, yn fyfyrgar eu naws, a gellir disgrifio ei genre artistig fel 'mewnoliaeth', gydag un person fel arfer yn y llun, a'r gweddill yn adlewyrchu teimladau a hanes y person hwnnw.

Erbyn y 2010au roedd llawer yn rhoi mwy o werth parhaol i'w gwaith nag i waith ei brawd Augustus.

Rhai gweithiau

golygu

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Langdale 1987
  2. Langdale 1987, t. 4.
  3. Langdale 1987, t. 7.
  4. Langdale 1987, t. 7,
  5. Tamboukou, t. 5.
  6. Foster 1999, t. 77.
  7. Langdale 1987, t. 21 a t. 125.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.