Grŵp greadigol a sefydlwyd gan Phil Stanton, Chris Wink a Matt Goldman yw Blue Man Group (Blue Man, BMG); canolbwynt y grŵp yw tri perfformiwr mud, o'r enw Blue Men, sy'n cyflwyno'u hunain mewn paent saim glas dros capiau moel latex a gwisgant ddillad duon. Tra'u bod yn perfformio, chwaraeir cymysgedd o offerynnau idiosynctraig. Pletha perfformiadau theatr y Blue Man Group gerddoriaeth roc (gyda phwyslais ar offerynnau traw), celf berfformio, propiau anghyffredin, y gynulleidfa, goleuo soffistigedig a llawer iawn o bapur. Ceir hefyd "adran poncho" yn y gynulleidfa; yn y rhesi blaen, darperir ponchos plastic ar gyfer y gynulleidfa er mwyn eu hamddiffyn o'r bwyd, deunyddiau, paent ac ati a deflir, gwasgarir neu arllwysir o'r llwyfan. Mae'r sioeau yn addas ar gyfer teuluoedd,[1] yn ddoniol, bywiog ac yn aml iawn caiff bywyd modern ei ddychanu. Mae peth o'r hiwmor yn cynnwys torri ar draws y sioe er mwyn gwneud sbort o bobl sy'n cyrraedd y sioe yn hwyr.

Blue Man Group
Enghraifft o'r canlynolcydweithfa artistiaid, band Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Label recordioVirgin Edit this on Wikidata
Dod i'r brig1987 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1987 Edit this on Wikidata
Genrecerddoriaeth arbrofol Edit this on Wikidata
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.blueman.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Blue Man Group yn perfformio yn Rhagfyr 2007.

Erbyn 2012 roedd 60,000 o bobl yn gweld perfformiadau gan Blue Man Group pob wythnos, mewn chwe dinas ar draws y byd.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Ricciardi, Tiney (18 Rhagfyr 2012). Q-and-A: The guys in Blue Man Group reveal their wizardry before their Dallas show. The Dallas Morning News. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2012.
  2. (Saesneg) Eng, Dinah (2 Hydref 2012). How Blue Man Group learned to see green. CNN. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2012.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: