Cerddoriaeth roc

math o gerddoriaeth boblogaidd
Bill Haley (yn 1957)
Gweler hefyd: Cerddoriaeth boblogaidd a Rhythm a blws

Roc a rôl

golygu
 
Ike Turner

Fe ddechreuodd gerddoriaeth roc gyda roc a rôl, math o gerddoriaeth ddawns. Ymdoddiad o rhythm a blws, jazz, boogie-woogie, jive a chanu gwlad oedd e. Fe fydd roc a rôl yn goglygu diwylliant gyfan hefyd.

Y cyntaf i ddefnyddio'r ymadrodd "rock 'n' roll" oedd y cyflwynydd Alan Freed yn 1951 i ddisgrifio caneuon rhythm a blws oedd e'n chwarae ar ei orsaf radio yn Cleveland, Ohio ond roedd y geiriau wedi ymddangos gyda'i gilydd yn gyntaf yn 1922 mewn cân y felan "My Man Rocks Me (With One Good Steady Roll)" gan Trixie Smith. Fe recordiodd hi'r gân eto yn 1938 gyda ychydig o swing, dan y teitl "My Daddy Rocks Me".

Y gwraidd

golygu
 
Elvis Presley, "Brenin roc a rôl"

Er oedd y math hwn o gerddoriaeth yn datblygu'n barod, Bill Haley wnaeth roc a rôl yn boblogaidd pan recordiodd ei gyfansoddiad "Crazy Man, Crazy" yn 1953. Roedd elfennau roc yn recordiau'r felan a jazz ers amser. Mae yna gytundeb cyffredin mai "Rocket 88" (1951) gan Jackie Brenston and the Delta Cats oedd y gân roc a rôl gwirioneddol gyntaf. Fe recordiodd Bill Haley fersiwn o'r gân hon hefyd yn 1951.

Efallai mai'r record gynharaf i swnio'n debyg i gerddoriaeth roc oedd "Pinetop's Boogie Woogie" gan Clarence "Pinetop" Smith yn 1928. Roedd llawer o recordiau yn y pedwar degau yn swnio fel roc. Mae enghreifftiau yn cynnwys "That's All Right" (1946) gan Big Boy Crudup a "Good Rocking Tonight" (1947) gan Roy Brown. Recordiodd Elvis Presley y rhain yn ddiweddarach. Yn 1947 fe recordiodd Wild Bill Moore gân o'r enw "We're Gonna Rock" sy'n cynnwys holl elfennau cerddoriaeth roc, ac ynddo mae'r geiriau "We're gonna rock. We're gonna roll". Enghraifft adnabyddus arall yw "Rock the Joint" (1949) gan Jimmy Preston a recordiodd Bill Haley yn ddiweddarach.

Elvis Presley

golygu

(Prif erthygl Elvis Presley)

Fe fydd edmygwyr mwyaf Elvis yn dweud mai efe a ddyfeisiodd roc a rôl yn 1954 pan ganodd fersiwn rocabili o "That's All Right"; hen gân Big Boy Crudup. Llysenw Elvis yw "The King", brenin roc a rôl.

Rocabili

golygu
 
Buddy Holly

Rockabilly oedd ymdoddiad o ganu gwlad a boogie-woogie yn cael ei berfformio gan Americanwyr gwynion fel Buddy Holly, Eddie Cochran, Gene Vincent, The Everley Brothers, Carl Perkins, Jerry Lee Lewis, Roy Orbison, Wanda Jackson a Brenda Lee. Ystyriwyd Elvis Presley hefyd yn cael yn ganwr rocabili.

Y gerddoriaeth

golygu
 
Fender Stratocaster, (y gitâr sy'n symboleiddio roc a rôl)

Mae gan gerddoriaerh roc bedwar curiad i'r bar ac mae'r acen ar yr ail a'r bedwaredd guriad yn hytrach nag ar y curiad cyntaf.

 
Bas nodweddiadol roc

Roedd gan fandiau roc a rôl gwreiddiol ganwr a band i gyfeilio. Mae gitâr drydan, bas feiol neu bas gitâr a drymau yn angenrheidiol. Mae e'n ddewisiad hefyd i gael sacsoffon a phiano neu allweddell. Fe fydd y drymau yn cadw rhythm caled a chryf tra fydd y bas, neu llaw chwith y piano yn cerdded 'nôl a 'mlaen. Bydd y canwr yn cyflenwi'r alaw a'r offerynnau eraill yn llenwi mewn gyda ambell i gymal. Mae dulliau chwarae roc a rôl yn debyg i ddulliau chwarae'r felan.

Patrymau sylfaenol cân roc yw tri phennill o ddeuddeg bar, a deuddeg bar offerynnol rhwng yr ail bennill a'r pennill olaf, neu pedwar pennill ac alaw wahannol i'r trydydd pennill. Gellir goleddfu'r patrymau hyn yn bellach.

 
Oldsmobile Rocket 88, (y car sy'n symboleiddio roc a rôl).

Y diwylliant

golygu

Mae delwedd a diwydiant wedi datblygu o gwmpas y gerddoriaeth; yn anad dim, delwedd y pethau a oedd yn gyfoesol a roc a rôl cynnar (1951 - 1963), fel y gitâr drydan, y juke-box, recordiau 45 tro, dawnsio'r jive, tafarnau coffi a cheir clasur.

Mae roc a rôl hefyd yn golygu'r math o fywyd sy'n cael ei gysylltu gyda band teithiol sy'n cynnal cyngherddau unnos, aros mewn gwestai a theithio gyda'u offerynnau.

Roc a rôl ym Mhrydain

golygu

Dechreuodd y rhan fwyaf o ganwyr roc a rôl Brydeinig mewn grwpiau sgiffl. Un o’r cyntaf oedd Tommy Steele. Fe wnaeth nifer o recordiau llwyddiannus yn y pum degau a’r chwe degau. Y mwyaf llwyddiannus oedd ei fersiwn o “Singing the Blues” (1956). Aeth ef ymlaen i chwarae mewn dramâu cerddorol.

Y gwr a oedd yn gyfrifol am ddysgu’r gitâr i’r Prydeinwyr oedd Bert Weedon, gyda’i lyfr "Play In a Day". Mae John Lennon, Paul McCartney, George Harrison, Eric Clapton, Mark Knopfler, Brian May, Pete Townshend, Sting, Mike Oldfield ac eraill yn cydnabod eu bod wedi cael cymorth gan y llyfr hwn. Roedd Bert hefyd wedi cyfeilio i lawer o ganwyr roc ar y gitâr yn anadnabyddus, ac yn 1956 fe ddechreuodd gynhyrchu ei recordiau ei hun. Y mwyaf llwyddiannus oedd "Guitar Boogie Shuffle" yn 1959 (fersiwn o "Guitar Boogie" gan Arthur Smith).

Cliff Richard oedd y prif ganwr roc a rôl Prydeinig yn y pum degau a’r chwe degau cynnar. Ganwyd ef yn India a threuliodd ei blentyndod acw. Ei arwr pan oedd yn ifanc oedd Elvis Presley ac roedd yn hoff o’i ddynwared. Recordiodd “Move It” yn 1958 gyda'i fand “Cliff and the Drifters” ond roedden nhw’n gorfod newid eu henw i Cliff Richard and the Shadows gan fod grŵp R & B yn America o’r enw The Drifters eisoes. Roedd y Shadows yn llwyddiannus iawn fel band offerynnol hefyd.

Canwr arall oedd Adam Faith. Yn 1959 fe recordiodd “What Do You Want?” a gwnaeth nifer o recordiau llwyddiannus hyd at 1966. Yn y saith degau, ddaeth e’n enwog unwaith eto fel actor.

Yn 1959 daeth Johnny Kidd and the Pirates i’r almwg gyda "Please Don’t Touch". Eu record mwyaf llwyddiannus oedd "Shaking All Over" (1960). Bu farw Johnny mewn damwain car yn 1966.

 
The Beatles

Yn y chwe degau roedd nifer fawr o ganwyr a bandiau Prydeinig llwyddiannus. Cyn hynny roedd America wedi dominyddu roc a rôl ond y chwe degau oedd oes y Beatles a’r Rolling Stones. Ffurfiwyd y Beatles yn 1959. Roedd pob aelod o'r band yn canu, yn hytrach na chael canwr a band i gyfeilio. Dechreuon nhw recordio yn 1962. Eu caneuon mwyaf llwyddiannus oedd “I Want to Hold Your Hand” (1963), “She Loves You” (1963), “Can’t Buy Me Love” (1964), “Hey Jude” (1968) a “Get Back” (1969). Gwahanodd y band yn 1970.

Ffurfiwyd y Rolling Stones yn 1962 i chwarae'r felan yn wreiddiol. Dechreuon nhw recordio yn 1963. Eu recordiau mwyaf poblogaidd oedd “(I Can’t Get No) Satisfaction” (1965), “Get Off My Cloud” (1965), “Paint It Black” (1966) a “Honky Tonk Women” (1969).

Bandiau Prydeinig eraill yr oes i gael llwyddiant yn rhyngwladol oedd yr Animals a’r Kinks.

Disgynnydd union o roc a rôl ydy roc. "The Byrds" (ffurfiwyd 1964 yn Los Angeles) sy'n cael y glod am fod y band roc gyntaf. Roedd adfywiad caneuon gwerin yn y 1960au ac roedd y Byrds yn gosod rhythmau roc a rôl i ganeuon gwerin, (yn enwedig caneuon Bob Dylan) i greu folk rock, country rock a rock. Yn eu caneuon roedd y drymau yn cadw rhythm galed cyson. Roedden nhw'n cyfeilio gyda gitâr deuddeg tant ac aelodau'r band yn canu mewn cytgord. Doedd hwn ddim yn beth hollol newydd gan oedd y Beatles yn ddylanwad mawr arnynt.

Roc syrffio

golygu

Tra oedd y Beatles a’r Rolling Stones yn arglwyddiaethu golygfa roc yn y chwe degau, y band mwyaf poblogaidd yn America oedd y Beach Boys (ffurfiwyd 1961). Eu caneuon mwyaf poblogaidd oedd "I Get Around" (1964), "Help Me Rhonda" (1965), "Good Vibrations" (1966), "Do It Again" (1968) a "Kokomo" (1989). Fe fydd roc syrffio yn defnyddio rhythm shyffl a’r gitâr fas yn chwarae ambell i glissando. Fe fydd y grwp yn canu mewn cytgord agos gyda lleisiau main yn aml. Mae bandiau roc syrffio eraill yn cynnwys The Surfaris a recordiodd "Wipe Out" (1963).

Roc galed

golygu

(Hard rock)

Yn y 1960au roedd "twang" caneuon gwlad a gafwyd yn arddull roc a rôl America wedi colli ei apél ym Mhrydain. Roedd grŵpiau Prydeinig, yn bennaf The Who (ffurfiwyd 1964) wedi cael eu dylanwadu mwy gan y felan ac roeddyn nhw'n chwarae roc galetach na'r pop/roc feddal a ddaeth gynt. Mae gan roc galed llawer o offerynnyddion gallus. Un o fandiau mwyaf adnabyddus roc galed yw Led Zeppelin (ffurfiwyd yn 1968). Mae eu caneuon yn cynnwys "Stairway to Heaven" ac mae "Whole Lotta Love" yn adnabyddus fel y gân a gyflwynodd y rhaglen deledu "Top of the Pops".

Mae Joan Jett and the Blackhearts (band roc galed o America; ffurfiwyd 1979) yn cael ei ystyried fel y band olaf i chwarae roc a rôl gwirioneddol. Fe fydd bandiau mwy diweddar yn chwarae ffurfiau disgynnyddol, hynny yw; metel trwm, roc flaengar, ac yn y blaen.

Y supergroup

golygu

Fe wnaeth roc ddatblygu'n bellach yn 1966 pan ffurfiodd Eric Clapton, Jack Bruce a Ginger Baker y grŵp "Cream". Hwn oedd y supergroup gyntaf, hynny yw; grŵp o aelodau mwyaf gallus bandiau eraill. Cyn hynny doedd roc ddim ond yn cael ei ystyried fel canigion ac mai cerddoriaeth glasurol oedd cerddoriaeth "iawn", ond fe newidiodd Cream y drefn wrth osod cerddoriaeth roc i'r blaen. Doedd dim diddordeb ganddyn nhw gael record yn y top 10. Doedd eu cynulleidfaoedd ddim yn llawn o ferched ifanc yn ysgrechian. Roeddyn nhw'n mynd yna i wrando ar y gerddoriaeth.

Jimi Hendrix

golygu

Un o'r perfformiwyr roc mwyaf galluog ac anhygoel erioed oedd Jimi Hendrix. Roedd hyd yn oed Eric Clapton wedi rhyfeddu ar ei fedrusrwydd. Daeth Hendrix i Lundain o America yn 1966 ac fe ffurfiodd y band "The Jimi Hendrix Experience". Fe wahanodd y band yn 1969 ar ôl llwyddiant enfawr. Y flwyddyn ganlynol bu farw Hendrix. Cân gyflwyno Jimi Hendrix oedd ei gyfansoddiad "Purple Haze" (1967).

Gweler hefyd

golygu