Bluestone

pentref yn Sir Benfro

Datblygiad gwersyll gwyliau moethus, ar ffurf pentref artiffisial, yn Sir Benfro yw Bluestone. Lleolir rhwng Pont Treganas a Martletwy, mae rhan ohono ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Agorwyd yn swyddogol ar 18 Gorffennaf 2008.[1]

Bluestone
Enghraifft o'r canlynolpentref, cyrchfan Edit this on Wikidata
Dechrau/SefydluGorffennaf 2008 Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthMartletwy Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.bluestonewales.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Derbyniodd ganiatâd cynllunio yn 2004, ond oherwydd ei leoliad o fewn y parc cenedlaethol gwrthwynebwyd y cynllun gan y gwarchotgi, Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol. Aeth y datblygwyr i'r Llys Uwch i gystadlu yn eu herbyn, gan ennill cefnogaeth y llys yn 2005.[2]

Mae 335 o letyau pren yno mewn ardal o 500 erw (2 km²). Mae Parc Thema Oakwood gerllaw. Mae parc dŵr (Blue Lagoon) a Chanolfan Hamdden yn cael eu hadeiladu tu allan i'r pentref, ac mae cynllun ar gyfer "Snow Dome".

Daw enw'r parc o garreg las y graig fetamorffig honno sy'n unigryw i'r ardal ac a ddefnyddiwyd yng Nghôr y Cewri.

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

  1.  Steffan Rhys (18 Gorffennaf 2008). Bluestone complex opens to the public. Western Mail.
  2.  Appeal Court backs Bluestone plan. BBC (20 Gorffennaf 2005).

Dolenni allanol golygu