Carreg las
Math o graig fetamorffig sy'n unigryw i Fynydd Preseli, Sir Benfro, yw'r garreg las. Mae'n garreg ddolerit sydd yn cynnwys rhyolytau, tywodfaen a lludw folcanig.
Math | carreg las |
---|---|
Rhan o | Côr y Cewri |
Oes Newydd y Cerrig
golyguDefnyddiwyd cerrig gleision i godi cylch canol Côr y Cewri, ond mae'n ddirgewlch sut yr aethant yno. O bosib, cludiwyd nhw i Loegr yn ystod Oes yr Iâ gan y rhewlifau. Damcaniaeth arall yw iddynt gael eu symud yno ar foncyffion a rhafftiau.
Defnifwyd carreg las i godi nifer o adeiladau eraill. Enghraifft arall yw'r bwyeill neolithig a ddarganfuwyd ar frynoedd Carn Menyn a Charn Alw yn y Preselau fil o flynyddoedd cyn symud y meini i Gôr y Cewri.