Blur
Band roc o Loegr a ffurfiwyd yn Llundain yn 1989 yw Blur. Aelodau'r grwp oedd y canwr a chwaraewr allweddellau Damon Albarn, y gitarydd/canwr Graham Coxon, y basydd Alex James a'r drymiwr Dave Rowntree. Roedd eu albwm cyntaf Leisure (1991) yn ymgorffori synau 'Madchester' a 'shoegazing', ac wedi hynny y daeth eu cerddoriaeth dan ddylanwad bandiau fel the Kinks, the Beatles ac XTC. Cafodd Modern Life Is Rubbish ei ryddhau yn 1993, Parklife yn 1994 a The Great Escape yn 1995. Daeth Blur yn un o fandiau mwyaf amlwg y sîn Britpop, gan gystadlu gydag Oasis yn y siartiau yn 1995 yn yr hyn ddaeth i'w adnabod fel "Brwydr Britpop".
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | Food Records, Parlophone Records Ltd., SBK Records, Virgin Records, EMI, Warner Records |
Dod i'r brig | 1989 |
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Genre | Britpop, roc amgen, roc indie |
Enw brodorol | Blur |
Gwefan | https://www.blur.co.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aeth y band trwy gyfnod o newid pellach yn ei sain wrth recordio'r albwm Blur yn 1997, y tro hwn yn arddangos dylanwad steil lo-fi y bandiau Americanaidd. Roedd yr albwm yn cynnwys y gân "Song 2", a daeth honno â'r band i boblogrwydd yn yr Unol Daleithiau. Teitl albwm nesaf y band oedd 13 (1999), ac roedd hwnnw'n arbrofi gyda cherddoriaeth electronig a gospel, a geiriau mwy personol gan Albarn. Gadawodd Graham Coxon y band ym Mai 2002, pan oeddynt yn recordio eu seithfed albwm Think Tank (2003). Roedd hwnnw yn cynnwys synau electronig a llai o gitar, ac yn adlewyrchu diddordeb Albarn mewn cerddoriaeth hip hop ac Africanaidd. Yn dilyn taith heb Coxon yn 2003, aeth yr aelodau eraill i weithio ar brosiectau eraill.
Daeth aelodau Blur, yn cynnwys Coxon, at ei gilydd eto yn 2009 ar gyfer cyfres o gyngherddau. Rhyddhawyd nifer senglau yn dilyn hynny, a bu'r band yn teithio yn rhyngwladol. Cyflwynwyd Gwobr Brit i'r band yn 2012 am ei gyfraniad i gerddoriaeth. Daeth yr albwm cyntaf iddyn nhw ei ryddhau mewn deuddeg mlynedd - The Magic Whip (2015) - yn y chweched i gyrraedd brig y siartiau Saesneg.