Grŵp roc Saesneg o Lerpwl yn y 1960au oedd The Beatles, un o grwpiau roc enwoca'r byd. Mae'r band yn cael ei ystyried fel y band mwyaf dylanwadol erioed.[1] Y pedwar prif aelod oedd John Lennon, Paul McCartney, Ringo Starr a George Harrison. Ar ôl dysgu eu crefft mewn clybiau yn Lerpwl a Hamburg, fe ddaeth llwyddiant ym Mhrydain gyda'u cân gyntaf yn y siartiau, "Love Me Do", yn 1962. Ar ôl iddynt gael llwyddiant yn yr Unol Daleithiau yn 1964 ar ôl eu perfformiad ar The Ed Sullivan Show, roedd eu poblogrwydd yn cynyddu, i'r pwynt lle'r oedd "Beatlemania" i'w weld ym mhobman yr oeddent yn mynd. Cyn recordio Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band, cyhoeddwyd y grŵp eu bwriad i roi'r gorau i berfformio o flaen cynulleidfaoedd yn 1966. Mae nifer o'u recordiau wedi'u canmol fel rhai sydd 'ymysg y goreuon sydd wedi'u creu erioed'. Ar ôl nifer o anghydfodau ynglŷn â phenderfyniadau recordio, cytunodd y grŵp i roi'r gorau i ganu gyda'i gilydd. Yna, fe ddilynnodd pob aelod lwybrau gwahanol, gyda McCartney a Lennon yn cael gyrfaoedd llwyddiannus dros ben. Llofruddiwyd John Lennon ym 1980 a bu farw George Harrison yn 2001, ond mae'r ddau aelod arall yn dal yn fyw. Mae'r band yn dal i fod yn hynod o boblogaidd, ac yn dal i werthu miliynau o recordiau.

The Fabs.JPG
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynol band roc Edit this on Wikidata
Daeth i ben 10 Ebrill 1970 Edit this on Wikidata
Gwlad y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dechreuwyd 1960 Edit this on Wikidata
Genre cerddoriaeth roc, cerddoriaeth boblogaidd, cerddoriaeth roc caled, roc a rôl, roc y felan, beat music, roc gwerin, roc seicedelig, cerddoriaeth werin, metal trwm, roc arbrofol Edit this on Wikidata
Yn cynnwys John Lennon, Ringo Starr, Paul McCartney, George Harrison Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Diwylliant Poblogaidd, c.1951-1979
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Y Beatles yw'r perfformwyr cerddoriaeth sydd wedi gwerthu orau erioed, gyda gwerthiannau ardystiedig o dros 183 miliwn o unedau yn yr Unol Daleithiau ac amcangyfrif o 600 miliwn o unedau o werthiannau ledled y byd. Nhw sydd â'r record am y nifer mwyaf o albymau rhif un yn Siart Albymau'r Deyrnas Unedig, y mwyafrif o ganeuon i gyrraedd rhif un ar siart Billboard Hot 100, a'r mwyaf o senglau a werthwyd gan berfformwyr yn y Deyrnas Unedig.[2]

Dylanwadau a steil cerddorolGolygu

Cafodd cerddoriaeth roc a rôl ddylanwad mawr ar y Beatles. Yn wreiddiol defnyddiwyd ‘roc a rôl’ i ddisgrifio cerddoriaeth sionc pobl dduon America a oedd yn cael ei gwneud ar gyfer cynulleidfaoedd gwyn. Elvis Presley oedd y mwyaf enwog i ganu’r math hwn o gerddoriaeth. Y gân ‘Shake, Rattle and Roll’ gan Bill Haley yn 1954, yn ogystal â chaneuon eraill yn y ffilm Rock Around the Clock, oedd y tro cyntaf i lawer o bobl glywed roc a rôl yn y Deyrnas Unedig. Roedd pobl yn clywed sêr roc a rôl America fel Elvis Presley, Chuck Berry, Little Richard a Buddy Holly am y tro cyntaf ar Radio Luxembourg.[3] Roedd y Beatles yn chwarae'n rheolaidd gyda Buddy Holly yn Hamburg yn ystod gwanwyn 1962, gan derbyn adborth ar y dechneg gywir ar gyfer performio eu caneuon.[4]

Sgiffl oedd ymateb Prydain i roc a rôl, sef canu a oedd yn defnyddio offerynnau acwstig, neu offerynnau cartref. Un o’r recordiau sgiffl mwyaf llwyddiannus oedd fersiwn Lonnie Donegan o’r gân werinol Americanaidd ‘Rock Island Line’ a werthodd 3 miliwn o gopïau mewn chwe mis. Roedd llawer o gerddorion ifanc yn mabwysiadu’r arddull hon am fod yr offerynnau’n rhad, a’r ffordd o’u canu’n hawdd. Roedd y caneuon yn hawdd hefyd. Ffurfiodd John Lennon fand sgiffl yn Lerpwl ym 1958 o'r enw The Quarrymen. Yn ddiweddarach ymunodd Harrison a McCartney â'r band, ac o dipyn i beth datblygodd grŵp The Beatles o hynny.[5][3]

Drwy ddefnyddio offerynnau trydanol, dechreuodd y bandiau sgiffl greu eu fersiwn eu hunain o roc a rôl. Cyfeiriwyd at yr arddull hwn weithiau fel ‘miwsig roc’ (beat music) oherwydd rhythmau gwthiol y caneuon ac ôl-guriad y drymiau. Roedd y bandiau hyn, fel The Beatles, The Rolling Stones, The Kinks, a The Who, wedi dod dan ddylanwad amrywiaeth eang o recordiau roc a rôl a rhythm a’r felan (R&B: rhythm and blues) o America.

Dyddiau cynnarGolygu

 
Y band yn Stockholm yn 1963

Roedd Lennon, McCartney a Harrison wedi bod yn canu gyda’i gilydd ar ryw ffurf ers 1956, ond dim ond ar ôl i Brian Epstein eu gweld yn canu yn ‘The Cavern Club’ yn Lerpwl yn 1961 y daethon nhw’n enwog. Agorwyd y clwb fel clwb jazz fel rhywle lle gallai pobl ifanc weld bandiau’n canu roc a rôl yn fyw, a chanodd The Beatles yno bron i 300 o weithiau rhwng 1961 ac 1963.

Cafodd delwedd rocwyr y grŵp ei newid wrth i Epstein eu rhoi mewn siwtiau hamdden heb goleri yn lle siacedi a throwsus lledr, a thorri eu gwalltiau’n fyrrach mewn steil ‘pennau mop’ (mop tops). Dysgodd Epstein nhw i ymddwyn mewn ffordd a fyddai’n dderbyniol i’r gynulleidfa ehangaf bosibl (e.e. ymgrymu ar ôl pob cân) a dweud wrthyn nhw am gadw eu perfformiadau’n fyr er mwyn gwneud yn siŵr bod y gynulleidfa eisiau mwy bob tro.

Sengl gyntaf y band oedd ‘Love Me Do’, a gyrhaeddodd yr 20 uchaf yn y siartiau yn 1963. Cyrhaeddodd yr albwm cyntaf, ‘Please Please Me’, frig y siartiau albwm yn 1962. Daeth y syniad y dylai bandiau ysgrifennu eu caneuon eu hunain yn boblogaidd diolch i The Beatles. Nid dyma oedd yr achos cyn iddyn nhw ddod yn enwog, ond dyma oedd yn gyffredin ar ôl hynny. Roedd eu caneuon pop dwy funud yn dylanwadu’n drwm ar y siartiau yn 1963 ac am sawl blwyddyn ar ôl hynny. Ni fyddai unrhyw un wedi gallu rhagweld poblogrwydd The Beatles - fe wnaeth 26 miliwn o bobl eu gwylio’n perfformio ar ‘The Royal Variety Show’ yn 1963 ac roedd 73 miliwn o Americanwyr wedi eu gwylio ar ‘The Ed Sullivan Show’ yn 1964.[3]

BeatlemaniaGolygu

 
The Beatles ar set ffilm 'The Magical Mystery Tour' yn 1967

Cafodd y term 'Beatlemania' ei ddefnyddio i ddisgrifio'r sgrechian a'r hysteria yr oedd y grŵp yn dod ar ei draws wrth chwarae i gynulleidfaoedd cyhoeddus. Erbyn 1964 roedd Beatlemania i'w weld ym mhobman. O'r amser hwn nes i'r band wahanu yn 1970 gwelsant lwyddiant ysgubol.

Byddai criwiau enfawr o gefnogwyr yn eu dilyn o gwmpas i bobman ac roedd nwyddau The Beatles, o lieiniau sychu llestri i chwistrelli gwallt (hairsprays), yn llenwi siopau Prydain ac America. Dechreuodd pobl alw’r obsesiwn â'r Beatles yn ‘Beatlemania’. Roedd pobl yn sgrechian mor uchel yn eu cyngherddau fel nad oedd y gynulleidfa’n gallu clywed y band yn canu. Un o’r lleoliadau lle bu’r grŵp yn perfformio yng Nghymru oedd ar y Pier yn Llandudno. Cododd tipyn o wrthwynebiad i’r band yn Unol Daleithiau America pan ddywedodd John Lennon ym mhapur newydd yr Evening Standard yn 1966 bod y grŵp yn fwy poblogaidd na Iesu Grist.[6]

Fe wnaeth y band eu ffilm gyntaf "A Hard Day's Night" ym 1964. O 1965 ymlaen, fe wnaethant gynhyrchu recordiadau cynyddol arloesol, gan gynnwys yr albymau Rubber Soul (1965), Revolver (1966) a Sgt. Pepper's Lonely Hearts Club Band (1967), a mwynhawyd llwyddiant masnachol pellach gyda The Beatles (a elwir hefyd yn "the White Album", 1968) ac Abbey Road (1969). Ym 1968, fe wnaethant sefydlu Apple Corps, corfforaeth amlgyfrwng aml-arfog sy'n parhau i oruchwylio prosiectau sy'n gysylltiedig ag etifeddiaeth y band.

Diwedd cyfnodGolygu

Ar ôl sawl anghydfod ynglŷn â phenderfyniadau recordio, cytunodd y grŵp i roi'r gorau i ganu gyda'i gilydd yn 1970. Yna, fe ddilynnodd pob aelod lwybrau gwahanol, gyda McCartney a Lennon yn cael gyrfaoedd llwyddiannus dros ben. Llofruddiwyd John Lennon ym 1980 a bu farw George Harrison yn 2001, ond mae'r aelodau eraill yn dal yn fyw. Mae'r band yn dal i fod yn hynod o boblogaidd ac yn dal i werthu miliynau o recordiau. Ym marn nifer o bobl, The Beatles yw un o'r bandiau mwyaf dylanwadol yn hanes cerddoriaeth fodern.

AlbymauGolygu

Dolen AllanolGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

CyfeiriadauGolygu

  1. Hasted, Nick,. The story of the Kinks : you really got me (arg. Updated edition). London. ISBN 978-1-78558-851-8. OCLC 1018253488.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  2. Hotten, Russell (2012-10-04). "From Fab Four to fabulously rich". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Diwylliant Poblogaidd 1951-1979" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 4 Mehefin 2020.
  4. Harry, Bill. (2000). The Beatles encyclopedia (arg. [Rev. and updated ed.]). London: Virgin. ISBN 978-0-7535-0481-9. OCLC 43339194.
  5. "Biographies". www.originalquarrymen.co.uk. Cyrchwyd 2020-06-04.
  6. Doggett, Peter. (2009). You never give me your money : the Beatles after the breakup (arg. 1st U.S. ed). New York: HarperCollins. ISBN 978-0-06-177446-1. OCLC 456180411.CS1 maint: extra text (link)